Mae Cynlluniau Datblygu Lleol (CDLlau) yn arwain datblygiad tir a defnydd ohono mewn ardal benodol. Maent yn ddogfennau statudol a gynhyrchir gan awdurdodau lleol ac awdurdodau parciau cenedlaethol ledled Cymru. Maent yn nodi graddfa’r twf mewn ardal leol at ddibenion preswyl, masnachol, diwydiannol a hamdden, ac yn nodi’r strategaeth ofodol neu’r strategaeth leoli ar gyfer y twf hwn. Mae’r berthynas rhwng cynllunio ac iechyd a llesiant yn cael ei chydnabod fwyfwy. Gall CDLlau chwarae rhan allweddol wrth greu lleoedd iach a lleihau anghydraddoldebau drwy ystyried iechyd a thegwch fel canlyniad allweddol cynllunio.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru heddiw yn cyhoeddi ymchwil newydd ar sut mae CDLlau yng Nghymru wedi ymgorffori iechyd a thegwch. Mae’r adroddiad yn rhoi cipolwg ar gyfnod, ac yn datgelu llawer iawn o arferion da, gyda llawer o CDLlau yn canolbwyntio’n gryf ar iechyd a llesiant, ac ar leihau anghydraddoldebau.
Nod y prosiect oedd adolygu sut mae CDLlau ledled Cymru yn cynnwys ffocws ar iechyd, llesiant a thegwch, adnabod arferion da a nodi cyfleoedd i’r Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU) ac Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) a phartneriaid allweddol eraill, gefnogi awdurdodau cynllunio lleol i ymgorffori iechyd mewn CDLlau.
Nodwyd bylchau rhwng gofynion polisi cynllunio cenedlaethol a’u rhoi ar waith yn ymarferol mewn CDLlau. Mae’r argymhellion yn yr adroddiad yn tynnu sylw at sut y gellid cryfhau hyn. Mae llawer o CDLlau yn eu cyfnodau disodli ac yn datblygu ystyriaeth o iechyd yn eu cynlluniau a’u polisïau, neu efallai eisoes wedi’i chynnwys. Efallai y bydd awdurdodau cynllunio lleol yn gweld hyn yn ddefnyddiol ar gyfer gwaith a thrafodaethau yn y dyfodol.