Mae papur newyddiadurol newydd yn y BMJ, a gafodd ei gyhoeddi a’i gyd-awduro gan aelodau o dîm Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU), yn ystyried goblygiadau iechyd penderfyniad y DU i ymuno ag un o gytundebau masnach rydd mwyaf y byd, sef Partneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel (CPTPP) Mae’r papur yn argymell y dylai’r llywodraeth gynnal asesiad o’r effaith ar iechyd (HIA) o’r cytundeb gan na chynhaliwyd un yn ystod y broses dderbyn.
Os hoffech ddarllen y papur llawn, cliciwch YMA.
Mae’r papur ar gael yn Saesneg yn unig.