Dydd Iau 8 Chwefror 2024

9:30am – 12.30pm (ar-lein)


Yn dilyn digwyddiad llwyddiannus y llynedd, mae Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU), Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnal ei ddigwyddiad blynyddol a gefnogir gan Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddod â gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio ym meysydd iechyd a chynllunio gofodol, neu sydd â diddordeb yn y maes, ynghyd.
Cynulleidfa: Bydd y digwyddiad yn berthnasol i gynllunwyr polisi a rheoli datblygu; gweithwyr iechyd proffesiynol o fyrddau iechyd lleol gan gynnwys timau iechyd y cyhoedd, timau cynllunio strategaeth a thimau ystadau/cyfleusterau cyfalaf; ac unrhyw un sydd â diddordeb yn yr agenda hon gan gynnwys cynllunwyr trafnidiaeth, swyddogion iechyd yr amgylchedd a gweithwyr proffesiynol yr amgylchedd adeiledig. 

Bydd y digwyddiad hwn yn canolbwyntio ar newidiadau yn yr agenda polisi cynllunio, cyfranogiad gwasanaethau iechyd y cyhoedd a gofal iechyd wrth ddylanwadu ar y defnydd o arian Adran 106, polisïau sy’n hwyluso amgylcheddau bwyd iach a diweddariad o Reoliadau Asesu’r Effaith ar Iechyd (HIA) Llywodraeth Cymru. Cyflwynir prosiectau ac astudiaethau achos perthnasol. 

Ymunwch â ni i gysylltu ag eraill ac archwilio’r heriau a’r cyfleoedd i wneud y gorau o iechyd a llesiant. 

Sut: Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal ar-lein YMA. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod gwerth digwyddiadau wyneb yn wyneb a byddwn yn parhau i adolygu sut y darperir digwyddiadau yn y dyfodol.