Yn ddiweddar, cyhoeddodd Liz Green a Kathryn Ashton o Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd Cymru (UGAEIC) erthygl o’r enw ‘Institutionalisation of health impact assessment. A systematic scoping review and development of a descriptive conceptual framework’ yn y cyfnodolyn Impact Assessment and Project Appraisal.

Y papur yw’r fframwaith ymarferol cyntaf i’r maes/gwladwriaethau/sefydliadau eraill ei ddefnyddio i fesur pa mor aeddfed ydynt (ai peidio) o ran HIA. Mae’n tynnu sylw at y galluogwyr a’r rhwystrau a’r 4 cam allweddol o sefydliadu HIA, sef: eirioli, mabwysiadu, gweithredu ac yn olaf, sefydliadu. Mae’r rhain wedi’u mapio yn erbyn ‘wal sefydliadu’ ymarferol sy’n cynnwys y gweithgareddau, y ffactorau a’r hwyluswyr hanfodol y mae eu hangen ar gyfer sefydliadu HIA. Gall gwladwriaethau a sefydliadau eraill ddefnyddio’r rhain i fesur eu hunain yn eu herbyn er mwyn nodi pa mor aeddfed ydynt (ai peidio) o ran y llwybr at sefydliadu a’r ffactorau hollbwysig sydd ganddynt ar hyn o bryd neu’r rhai y mae angen iddynt ymdrechu amdanynt.

I ddarllen rhagor am y papur, cliciwch ar y ddolen isod:

Institutionalisation of health impact assessment. A systematic scoping review and development of a descriptive conceptual framework (Saesneg yn unig)