Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi creu pecyn cymorth ymarferol ar gyfer Asesiad o’r Effaith ar iechyd a fydd yn galluogi cynllunwyr i integreiddio iechyd yn hawdd yn eu cynlluniau datblygu ar gyfer y dyfodol. 

Wedi’i ddylunio i helpu i hyrwyddo’r cydweithio rhwng sectorau cynllunio ac iechyd cyhoeddus yng Nghymru, mae’r adnodd yn ceisio sicrhau’r canlyniadau iechyd a llesiant cadarnhaol mwyaf posibl drwy bolisïau cynllunio defnydd tir sy’n creu cymunedau iach, teg a chydlynus. 

Mae’r Pecyn Cymorth Ymarfer AEI yn canolbwyntio ar baratoi Cynlluniau Datblygu Lleol (CDLl) a Chanllawiau Cynllunio Atodol (SPG) ond yn yr un modd gallai lywio a chefnogi’r gwaith o ddatblygu Cynlluniau Datblygu Strategol ac adolygiadau o CDLl.

Mae’r adnodd wedi’i anelu’n bennaf at swyddogion polisi iechyd cyhoeddus a swyddogion chynllunio defnydd tir awdurdodau lleol. Yn yr un modd, gallai’r rhai sy’n gweithio mewn byrddau iechyd lleol, adrannau llywodraeth leol ychwanegol, swyddogion iechyd yr amgylchedd, y trydydd sector a phroffesiynau eraill yr amgylchedd adeiledig ei gael yn ddefnyddiol i sicrhau gweithio mwy cydgysylltiedig yn lleol ac integreiddio ymarfer. 

Mae ‘Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd a Chynlluniau Datblygu Lleol: Pecyn Cymorth ar gyfer Ymarfer’ mewn dwy ran; mae Rhan A yn amlinellu’r cyd-destun a’r dulliau o gyflawni polisi, mae Rhan B yn cynnwys cyngor ac adnoddau ymarferol y gellir eu defnyddio fel pwynt cyfeirio hygyrch pan fydd angen gwneud hynny yn ystod y gwaith o ddatblygu Cynlluniau Datblygu Lleol, Cynlluniau Datblygu Strategol a Chanllawiau Cynllunio Atodol. Lawrlwythwch Adobe Acrobat Reader cyn agor yr adnodd hwn er mwyn cael elwa ar ei swyddogaethau’n llawn.

Cael gwybod mwy…