Nod y gweithdy yw gwella, creu a chynllunio amgylchedau cynaliadwy iach trwy agenda iechyd y cyhoedd a chynllunio gofodol ar y cyd.  Mae hefyd yn ceisio pwysleisio arfer gorau ac archwilio modelau a chyfleoedd ar gyfer gwaith partneriaeth cynaliadwy, wedi ei gydlynu yn y dyfodol.

Cynulleidfa: Cynllunwyr gofodol, gwneuthurwyr polisïau, academyddion, ymarferwyr iechyd y cyhoedd, y trydydd sector, arbenigwyr iechyd y cyhoedd a’r GIG.

Os hoffech archebu lle yn y gweithdy cofrestrwch yma.

Noder bod y lleoedd yn gyfyngedig a chânt eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin.

Darperir lluniaeth wrth gyrraedd a chinio ysgafn – rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion deietegol ymlaen llaw.

Cynhelir y gweithdy ar y 30ain o Ionawr 2020 am 10.00 – 15.30 yn yr Hwb Gwyddorau Bywyd, Caerdydd.

Cliciwch yma i weld yr agenda.
Cliciwch yma i weld y daflen.

Am fanylion pellach ar y digwyddiad, cysylltwch â [email protected].