Llygredd aer yw’r risg amgylcheddol fwyaf i iechyd (WHO, 2016). Un dull a dreialwyd gan Gyngor Caerdydd i leihau llygredd aer o ffynonellau traffig yw gwneud strydoedd trefol yn ddi-draffig a hyrwyddo teithio llesol, cynaliadwy. Ond sut y gellir asesu llwyddiant ymyrraeth o’r fath? A allai cyfleoedd i leihau llygredd aer gyd-fynd â chyfleoedd i wella iechyd a lleihau anghydraddoldebau? A oes potensial ar gyfer canlyniadau anfwriadol? Mae’r astudiaeth achos hon yn dangos sut y gall cymhwyso Asesiad o’r Effaith ar Iechyd (HIA) helpu i wneud hyn mewn amryw o ffyrdd i lywio penderfyniadau a chamau gweithredu yn y dyfodol.
Gellir gweld yr astudiaeth achos a ysgrifennwyd gan Kristian James MPH CEnvH, Prif Arbenigwr Iechyd Cyhoeddus yr Amgylchedd, Iechyd Cyhoeddus Cymru trwy glicio yma (Saesney yn unig).