Mae Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru yn lansio rhwydwaith HIA newydd mewn digwyddiad rhithwir ddydd Iau 26 Mai. Cynhelir y digwyddiad ar-lein drwy Microsoft Teams rhwng 10am a hanner dydd. Ymunwch â ni i ddysgu mwy am rwydwaith HIA ac i rannu syniadau fel rhan o’r gwaith o lunio’r rhwydwaith wrth iddo esblygu.
Mae’r digwyddiad hwn yn agored i bawb sy’n gweithio yng Nghymru/o fewn sefydliad sydd wedi’i leoli yng Nghymru sydd: â diddordeb mewn Asesu’r Effaith ar Iechyd, gan gynnwys y rhai sydd â phrofiad o HIA a heb brofiad ohono, a’r rhai y gallai fod angen iddynt gynnal neu eirioli dros Asesu’r Effaith ar Iechyd yn y dyfodol. Mae croeso i eraill fynychu, fodd bynnag, nodwch fod lleoedd yn gyfyngedig a chânt eu cynnig i’r rhai sy’n bodloni’r meini prawf uchod yn gyntaf.
Cofrestrwch eich diddordeb mewn mynychu yma. Yn dilyn hyn byddwn yn anfon e-bost atoch i gadarnhau a ydych wedi llwyddo i gael lle. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag: [email protected]
Cliciwch yma i weld y daflen