Symud y cwrs E-ddysgu Cyflwyniad i Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd i wefan Dysgu@Cymru
Mae’r cwrs e-ddysgu Cyflwyniad i Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd (HIA) Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd Cymru (UGAEIC) sy’n rhad ac am ddim bellach ar gael mewn lleoliad newydd. Mae’r cwrs bellach ar gael ar y platfform Dysgu@Cymru, ble y gall UGAEIC drefnu cyfrifon i ddefnyddwyr gael mynediad at y cwrs. Gall unrhyw un […]
Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd Cymru yn nodi 20 mlynedd o ‘lunio Cymru iachach’
Mae Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd Cymru (UGAEIC) wedi nodi 20 mlynedd o helpu i “lunio Cymru iachach a thecach”. Dathlodd yr uned, sy’n darparu arweiniad, hyfforddiant, adnoddau a gwybodaeth mewn perthynas â chynnal asesiadau o’r effaith ar iechyd, y garreg filltir ar 14 Tachwedd drwy gynnal gweminar mewn partneriaeth â Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru. Yn […]
Digwyddiadau Rhwydwaith Ymarfer HIA sydd ar ddod
Asesiad o’r Effaith ar Iechyd ac Adenillion Cymdeithasol o Fuddsoddi – Cipio effeithiau iechyd a gwerth cymdeithasol iechyd y cyhoedd Dydd Mercher, 28 Awst 2024, 10:00 – 11:00 Bydd y weminar nesaf hon yng nghyfres o ddigwyddiadau rhwydwaith HIA WHIASU yn archwilio’r cysyniad o werth cymdeithasol a’i berthynas ag Asesu’r Effaith ar Iechyd (HIA). Byddwn yn edrych ar […]
Asesu goblygiadau cytundebau masnach rydd ar iechyd y cyhoedd: Cytundeb Partneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel
Yn 2016, pleidleisiodd y Deyrnas Unedig i adael yr Undeb Ewropeaidd, a oedd wedi creu ansicrwydd gwleidyddol a chymdeithasol. Mae’r Deyrnas Unedig bellach yn negodi ei chytundebau masnach ei hun, ac ym mis Mawrth 2023, cytunodd i ymuno â Chytundeb Partneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel (CPTPP). Cynhaliwyd Asesiad o’r Effaith ar Iechyd (HIA) […]
Adroddiad newydd: Newid Hinsawdd yng Nghymru: Asesiad o’r Effaith ar Iechyd
Mae’r asesiad hwn o’r effaith ar iechyd (HIA) yn arfarniad strategol a chynhwysfawr o oblygiadau posibl newid hinsawdd yn y dyfodol agos i’r hirdymor ar iechyd poblogaeth Cymru. Mae’n darparu tystiolaeth gadarn i hysbysu cyrff cyhoeddus, asiantaethau a sefydliadau yn eu paratoadau ar gyfer newid hinsawdd a digwyddiadau newid hinsawdd a’u hymatebion iddynt. Ei nod […]