Am dros bedwar degawd, mae’r UE wedi delio â’r rhan fwyaf o bolisi masnach y DU. Nawr, wrth i’r wlad adennill ymreolaeth dros ei phenderfyniadau polisi masnach, rhaid i’r llywodraeth ystyried ei hymagwedd yn ofalus wrth ddilyn cytundebau masnach rydd. Mae Llywodraeth y DU eisoes wedi cytuno ar gytundeb masnach gyda’r UE, ac yn ddiweddar, mae wedi gwneud cais ffurfiol i ymuno ag un o gytundebau masnach rydd mwyaf y byd, sef Partneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel (CPTPP).
Bydd gan y ddau gytundeb hyn oblygiadau sylweddol i ystod o benderfynyddion iechyd gan gynnwys safonau bwydydd, rheoliadau tybaco ac alcohol, amodau gwaith a diogelu’r amgylchedd ar draws pedair gwlad y DU, sy’n cynnwys Cymru. Ond a yw system iechyd y cyhoedd yn barod i wneud y mwyaf o’r cyfleoedd iechyd y gallai’r cytundebau hyn eu cynnig, ac a all liniaru unrhyw risgiau posibl? Beth fydd y goblygiadau i Gymru?
Nod y dosbarth meistr rhithwir dwy ranhwn yw rhoi dealltwriaeth well a manylach i arbenigwyr iechyd y cyhoedd, llunwyr polisi ac arweinwyr y sector cyhoeddus o sut y gallai cytundebau masnach y DU-UE a CPTPP ddylanwadu ar benderfynyddion iechyd a llesiant. Y nod yw rhoi’r wybodaeth angenrheidiol i gyfranogwyr i gefnogi gwell eiriolaeth dros iechyd a thegwch iechyd ym maes polisi masnach.
Arweinir y dosbarth meistr gan Dr. Courtney McNamara, Uwch Gydymaith Ymchwil yn y Ganolfan Ymchwil Anghydraddoldebau Iechyd Byd-eang.
Bydd pob sesiwn yn cynnwys:
- Trosolwg o ganfyddiadau asesiadau blaenorol o’r effaith ar iechyd mewn perthynas â chytundebau masnach rydd;
- Dadansoddiad o’r iaith a ddefnyddir mewn cytundebau masnach, gyda ffocws ar sut i’w dehongli, a’r hyn y mae’n ei olygu ar gyfer iechyd a llesiant;
- Dadansoddiadau ymarferol o bob cytundeb a’r goblygiadau ar gyfer iechyd, llesiant a’r GIG yn y DU.
Cynulleidfa: Llunwyr polisi, arweinwyr sector cyhoeddus, y trydydd sector, arbenigwyr iechyd y cyhoedd
Cliciwch yma i weld y daflen a cofrestrwch neu:
Rhan 1 – cofrestrwch yma
Rhan 2 – cofrestrwch yma