Canllawiau ar gyfer Awdurdodau Cynllunio yng Nghymru
Bwriedir i’r arweiniad hwn gefnogi’r rhai sy’n gweithio ar draws awdurdodau cynllunio yng Nghymru i wreiddio Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd (HIA) yn y broses gynllunio, gan ddarparu fframwaith clir ac ymarferol i gynghori ymgeiswyr ar pryd a sut y dylid cynnal HIA mewn perthynas â chynigion datblygu newydd. Mae’r canllaw yn darparu fframwaith i awdurdodau ddatblygu eu dull eu hunain o wreiddio HIA o fewn cynllunio, wedi’i deilwra i’r cyd-destun lleol a gofynion polisi.
Dan Sylw – Iechyd, Llesiant a Thegwch gan Ddefnyddio Asesu’r Effaith ar Iechyd: Astudiaethau Achos o Gyrff Cyhoeddus yng Nghymru
Mae’r cyhoeddiad hwn yn canolbwyntio ar y defnydd o Asesiad o’r Effaith ar Iechyd (HIA) gan gyrff cyhoeddus yng Nghymru fel proses a all gefnogi llunwyr polisïau a’r rhai sy’n ymwneud â gwneud penderfyniadau i wneud y mwyaf o fuddion llesiant, lleihau niwed i iechyd, ac osgoi ehangu anghydraddoldebau iechyd.
Asesu’r Effaith ar Iechyd (HIA): Grwpiau Poblogaeth a Phenderfynyddion Ehangach Iechyd a Llesiant
Mae’r Canllaw Gwirfoddol yn disodli’r ddogfen flaenorol, sef: Asesu’r Effaith ar Iechyd: Canllaw Ymarferol, a gynhyrchwyd gan WHIASU yn 2012, ac mae’n amlinellu camau arferion gorau ar gyfer cynnal HIAs gwirfoddol.
Rheoliadau Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd (Cymru) 2025: Canllaw i gyrff cyhoeddus yng Nghymru
Mae’r canllaw hwn yn rhoi cymorth cam wrth gam i gyrff cyhoeddus sy’n gorfod cynnal Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd o dan reoliadau Cymru. Mae’r canllaw yn:
• Egluro’r gofynion cyfreithiol a phryd mae angen Asesiad o’r Effaith ar Iechyd.
• Nodi proses glir i’w dilyn, o’r dechrau i’r diwedd.
• Yn cynnwys offer ymarferol, templedi, ac enghreifftiau i helpu i sicrhau cydymffurfiaeth a thryloywder.
Asesiad o’r Effaith ar Iechyd: Canllaw ymarferol ar gyfer arferion gorau gwirfoddol yng Nghymru
Mae’r canllaw hwn wedi’i gynllunio ar gyfer sefydliadau ac ymarferwyr sy’n dymuno cynnal Asesiad o’r Effaith ar Iechyd o’u gwirfodd fel rhan o arfer da. Mae’r canllaw yn:
• Annog y defnydd rhagweithiol o Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd, gan ddilyn yr arfer gorau, i gryfhau’r broses o wneud penderfyniadau ac o ystyried anghydraddoldebau.
• Nid yw wedi’i gyfyngu i benderfyniadau strategol yn unig, mae’n addas ar gyfer ystod o benderfyniadau.
• Mae’n amlinellu’r broses o gynnal Asesiad o’r Effaith ar Iechyd ynghyd â dulliau hyblyg y gallwch eu haddasu i brosiectau, polisïau neu gynlluniau o unrhyw raddfa.
• Mae’n hyrwyddo dull cyfranogol trwy ymgysylltu â rhanddeiliaid i nodi ystod eang o effeithiau cadarnhaol a rhai anfwriadol negyddol.
Asesu’r Effaith ar Iechyd (HIA): Templed Cofnodi’r Gweithdy Cyfranogol
Gellir defnyddio’r templed hwn ar y Cam Arfarnu Tystiolaeth o’r broses HIA i helpu i gofnodi trafodaethau yn ystod gweithdy cyfranogol. Dylid defnyddio hwn ochr yn ochr â’r adnodd Grwpiau Poblogaeth a Phenderfynyddion Ehangach Iechyd a Llesiant.
Asesu’r Effaith ar Iechyd (HIA): Templed cwmpasu
Dylid defnyddio’r adnodd hwn yn ystod cam Cwmpasu’r broses HIA. Darperir nodiadau canllaw ar ddiwedd yr adnodd hwn i gefnogi’r gwaith o gwblhau’r cam hwn. Yn
ddelfrydol, dylai mwy nag un unigolyn gwblhau’r cam cwmpasu.
Asesu’r Effaith ar Iechyd (HIA): Taflen Cofnodi Sgrinio
Gellir defnyddio’r daflen cofnodi sgrinio ar Gam Sgrinio’r broses HIA i helpu i arwain a chofnodi’r trafodaethau. Dylid ei defnyddio ochr yn ochr â’r adnodd Grwpiau Poblogaeth a Phenderfynyddion Ehangach Iechyd a Llesiant.
Asesu’r Effaith ar Iechyd (HIA): Enghraifft o agenda gweithdy cyfranogol
Dyma enghraifft o agenda i’w defnyddio wrth gynnal gweithdy cyfranogol ar gam Sgrinio neu ar gam Arfarnu’r HIA
