Cyhoeddwyd WHIASU Fframwaith Hyfforddiant a Meithrin Gallu ar gyfer Asesu’r Effaith ar Iechyd

Yr wythnos hon mae’r Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd wedi cyhoeddi fframwaith ar gyfer hyfforddiant a meithrin gallu AEI. Mae’r adroddiad technegol yn gosod fframwaith cynhaliol am ddull WHIASU o gynllunio, datblygu, cyflwyno a gwerthuso’r hyfforddiant a meithrin gallu ar gyfer AEI dros y pum mlynedd nesaf.

Mae’r fframwaith yn ganlyniad 18 mis o ymchwil, datblygiad ac ymgysylltiad. Mae’r ddogfen dechnegol yn manylu ‘Fframwaith Sgiliau a Gwybodaeth ar gyfer AEI’ a ‘Llwybr Datblygu AEI’ a ddatblygir yn ddiweddar ac sy’n medru cynorthwyo datblygiad y gweithlu a meithrin gallu.

Datblygwyd y fframwaith gydag ymgysylltiad ac adborth gan ymarferwyr AEI o Gymru a thu hwnt. Yn ogystal, cynlluniwyd gyda mewnbwn gan randdeilliaid allweddol, gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, Byrddau Iechyd Lleol, swyddogion cynllunio, ymarferwyr iechyd yr amgylchedd ac arbenigwyr iechyd cyhoeddus.

Gellir lawrlwytho’r adroddiad technegol yma. Bydd y cynnwys yn cael ei addasu i greu pecyn cymorth meithrin gallu ar gyfer cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn hwyrach yn y flwyddyn.