Heddiw cyhoeddodd dîm Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU) ‘Ymateb i her driphlyg Brexit, COVID-19 a newid yn yr hinsawdd i iechyd, llesiant a thegwch yng Nghymru’.
Mae’r adroddiad yn darparu trosolwg strategol o effeithiau cronnus a rhyng-gysylltiedig iechyd a llesiant oherwydd Brexit, pandemig COVID-19 a newid yn yr hinsawdd yng Nghymru a’r ‘her driphlyg’ y mae hyn yn ei gosod i’r boblogaeth.
Mae’n nodi’r penderfynyddion cymdeithasol a’r grwpiau poblogaeth allweddol y mae’r Her Driphlyg hon yn effeithio arnynt. Yn ogystal, mae’n darparu rhai enghreifftiau allweddol ynghyd â’r llwybrau effaith megis cynnwys Cytundebau Masnach Rydd. Mae’r adroddiad wedi’i anelu at ystod eang o gynulleidfaoedd gan gynnwys cyrff cyhoeddus, swyddogion iechyd y cyhoedd a pholisi ond mae’r adroddiad hefyd yn berthnasol iawn i’r Trydydd Sector a’r gymdeithas sifil ehangach. Dyma’r allbwn cyntaf mewn cyfres ar effeithiau iechyd yr Her Driphlyg a bydd yn sail i waith yn y dyfodol i archwilio’r rhyng-gysylltiadau gan ystyried nifer o heriau.
Os oes angen unrhyw wybodaeth bellach arnoch yna cysylltwch â Kath Ashton [email protected] neu Liz Green [email protected]