Mae Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU) wedi’i lleoli yng Nghanolfan Gydweithredu Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) ar ‘Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant’ y Gyfarwyddiaeth Polisi Iechyd Rhyngwladol, Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae’r wefan hon yn darparu gwybodaeth am Uned Gymorth HIA Cymru, Asesiad Effaith Iechyd (HIA) a’r broses fel y’i hymarferir yng Nghymru, newyddion a datblygiadau diweddar. Mae’n darparu adnodd i’r rhai sy’n cynnal HIA ar hyn o bryd, llunwyr polisi a’r rhai sy’n newydd i’r broses ac sy’n chwilio am wybodaeth a thystiolaeth. Mae dolenni ar gael i’r HIA sydd wedi’u cwblhau yng Nghymru a gweithgareddau eraill HIA o’r Uned, er enghraifft hyfforddiant a gwybodaeth a dolenni i adnoddau a chanllawiau defnyddiol.
Y Newyddion Diweddaraf
Canllawiau newydd i helpu awdurdodau lleol i gynllunio a dylunio lleoedd iachach ledled Cymru
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi canllawiau newydd i gefnogi awdurdodau lleol yng Nghymru i ddylunio, cynllunio a chreu lleoedd sy’n galluogi pobl i fyw bywydau iachach a hapusach. Mae’r canllawiau Cynllunio Lleoedd Iach yn amlinellu sut y gellir gwreiddio iechyd ym mhroses y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl), sef y fframwaith cynllunio hirdymor sy’n nodi […]
Sut gall cynllunio lunio cymunedau iachach ledled Cymru
Mae adroddiad ymchwil newydd wedi canfod bod Cynlluniau Datblygu Lleol (CDLlau) yn cynnig cyfle allweddol i sicrhau bod y system gynllunio yn cefnogi iechyd a llesiant pobl a chymunedau ledled Cymru. Archwiliodd yr adroddiad, ‘Cyflawni Blaenoriaethau Iechyd a Llesiant y Cyhoedd drwy Gynlluniau Datblygu Lleol yng Nghymru’ a baratowyd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru gan […]
Arolwg Iechyd Byd-eang ym Mhob Polisi 2025
👉 Mynediad i’r arolwg yma (Saesneg yn unig): https://www.surveymonkey.com/r/MFPY2QQ Mae’r arolwg yn cymryd tua 20 munud i’w gwblhau. Gallwch gael seibiant a dychwelyd ato yn ôl yr angen—bydd eich ymatebion yn cael eu harbed fesul tudalen. Mae cymryd rhan yn wirfoddol, a bydd yr holl ddata yn cael eu trin yn gyfrinachol. Dim ond ar […]
Iechyd mewn Cynllunio: Rôl iechyd mewn Cynlluniau Datblygu Lleol yng Nghymru
Mae Cynlluniau Datblygu Lleol (CDLlau) yn arwain datblygiad tir a defnydd ohono mewn ardal benodol. Maent yn ddogfennau statudol a gynhyrchir gan awdurdodau lleol ac awdurdodau parciau cenedlaethol ledled Cymru. Maent yn nodi graddfa’r twf mewn ardal leol at ddibenion preswyl, masnachol, diwydiannol a hamdden, ac yn nodi’r strategaeth ofodol neu’r strategaeth leoli ar gyfer […]
e-Ddysgu Sicrhau Ansawdd ac Adolygu Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd (HIAs) Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru (UGAEIC)
Mae e-Ddysgu Sicrhau Ansawdd ac Adolygu Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd (HIAs) Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru (UGAEIC) ar gael ar wefan Dysgu@Cymru. Mae hwn yn gwrs am ddim, sydd ar gael i unrhyw un ei gyrchu. Mae wedi’i anelu at y rhai sy’n cynnal HIAs, yn eu hadolygu neu’n defnyddio HIAs fel […]
Digwyddiad Rhwydwaith Ymarfer Asesu’r Effaith ar Iechyd (HIA) nesaf – Masnach fel Penderfynydd Masnachol Allweddol ar Iechyd
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi y bydd Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru (UGAEIC) yn cynnal ein digwyddiad Rhwydwaith Ymarfer HIA nesaf ar-lein ddydd Iau 4 Medi 2025 rhwng 10.00 a 11.30am Amser Haf Prydain (BST). Bydd y digwyddiad yn rhoi cyfle i’r rheiny sy’n bresennol ddysgu am y gwaith sy’n digwydd yng […]
