21 Ionawr 2019

Adroddiad Cenedlaethol newydd yn trafod sut y gall Brexit effeithio ar iechyd a llesiant pobl ledled Cymru

Wedi’i gyhoeddi heddiw gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae’r Asesiad o’r Effaith ar Iechyd Brexit yn trafod effeithiau posibl Brexit ar iechyd tymor byr, canolig a hirdymor pobl sy’n byw yng Nghymru. Mae’n tynnu sylw at sut y mae’n rhaid i iechyd corfforol a meddyliol y tlotaf, y rhai â chymwysterau addysgol is, y rhai sy’n […]

19 Rhagfyr 2018

Gwefan newydd – Swyddfa Ewropeaidd WHO ar gyfer Buddsoddi mewn Iechyd a Datblygiad, Fenis, yr Eidal

Mae’r wefan newydd (ar gael yn Saesneg yn unig) ar gyfer Swyddfa Ewropeaidd WHO ar gyfer Buddsoddi mewn Iechyd a Datblygiad, Fenis, yr Eidal yn cynnwys ystod o wybodaeth ac adnoddau defnyddiol gan gynnwys cyhoeddiadau, newyddion a chyfle i gyfarfod â’r swyddfa! Swyddfa Fenis yw canolfan ragoriaeth WHO/Ewrop ym meysydd thematig tegwch iechyd, penderfynyddion cymdeithasol ac economaidd […]

6 Mehefin 2018

HIA ar Ddarpariaeth Toiledau Cyhoeddus ar Ynys Môn yn Hysbysu Polisi Llywodraeth Cymru

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru yr wythnos diwethaf y bydd gan bob awdurdod lleol yng Nghymru flwyddyn, o dan Ddeddf newydd Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, i ddatblygu strategaeth toiledau cyhoeddus. Dylai’r strategaethau hyn fynd i’r afael ag anghenion iechyd a llesiant pob grŵp yn y gymdeithas, yn enwedig y rhai yr ystyrir bod ganddynt anghenion ychwanegol […]