Ymateb i her driphlyg covid-19, Brexit, a newid yn yr hinsawdd
Llythyr yn galw ar y Deyrnas Unedig i fynd i’r afael â her iechyd cyhoeddus driphlyg covid-19, newid yn yr hinsawdd, a Brexit.
Llythyr yn galw ar y Deyrnas Unedig i fynd i’r afael â her iechyd cyhoeddus driphlyg covid-19, newid yn yr hinsawdd, a Brexit.
Mae asesu’r effaith ar iechyd (HIA) yn cael ei gydnabod yn gynyddol ar draws y byd fel offeryn llywodraethu effeithiol i ymgorffori Iechyd ym Mhob Polisi i fynd i’r afael â phenderfynyddion ehangach iechyd. Fodd bynnag, nid yw’n cael ei gydnabod na’i ymarfer rhyw lawer mewn llawer o wledydd datblygol, yn cynnwys Sri Lanka, lle mae ei berthnasedd yn fwy priodol o ystyried cymhlethdod penderfynyddion cymdeithasol iechyd ac anghydraddoldebau. Nod yr astudiaeth achos gymharol hon oedd archwilio’r rhwystrau o ran gweithredu HIA yn Sri Lanka ym meysydd fframwaith polisi cefnogol, seilwaith sefydliadol, meithrin gallu, a chydweithredu aml-sector a’u cymharu â system HIA lwyddiannus mewn gwlad ddatblygedig (Cymru) gyda’r bwriad o nodi’r “arfer gorau” sydd yn berthnasol yng nghyd-destun gwlad ddatblygol.
Mae’r HIA yn amlinellu effeithiau posibl y Polisi Aros Gartref a Chadw Pellter Cymdeithasol (a elwir yn gyffredin yn ‘Gyfnod Clo’) ar iechyd a lles poblogaeth Cymru yn y tymor byr, y tymor canolig a’r hirdymor. Mae’n defnyddio’r hyn a ddysgwyd o dystiolaeth ryngwladol, y data a’r wybodaeth ddiweddaraf a barn rhanddeiliaid arbenigol
Mae asesu effaith gadarnhaol a negyddol polisïau, gwasanaethau ac ymyriadau ar iechyd a llesiant yn bwysig iawn i iechyd y cyhoedd. Mae Asesu’r Effaith ar Iechyd (HIA) ac Elw Cymdeithasol ar Fuddsoddiad (SROI) yn fethodolegau wedi eu sefydlu sydd yn asesu’r effeithiau posibl ar iechyd a llesiant, yn cynnwys ffactorau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol, yn dangos synergeddau, a gorgyffwrdd o ran eu hymagwedd. Yn y papur hwn, rydym yn archwilio sut gallai HIA ac SROI ategu ei gilydd i gyfleu a rhoi cyfrif am effaith a gwerth cymdeithasol ymyrraeth neu bolisi sydd wedi ei asesu.
Mae hwn yn adroddiad ategol byr ac mae’n adeiladu ar ddadansoddiad manwl o Oblygiadau Brexit yng Nghymru i Iechyd y Cyhoedd: Ymagwedd Asesu’r Effaith ar Iechyd, a gyhoeddwyd yn wreiddiol ym mis Ionawr 2019, sy’n archwilio effeithiau posibl Brexit ar iechyd a lles tymor byr, canolig a hirdymor pobl sy’n byw yng Nghymru.
Yr wythnos hon mae’r Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd wedi cyhoeddi fframwaith ar gyfer hyfforddiant a meithrin gallu AEI. Mae’r adroddiad technegol yn gosod fframwaith cynhaliol am ddull WHIASU o gynllunio, datblygu, cyflwyno a gwerthuso’r hyfforddiant a meithrin gallu ar gyfer AEI dros y pum mlynedd nesaf.
Mae’r fframwaith yn ganlyniad 18 mis o ymchwil, datblygiad ac ymgysylltiad. Mae’r ddogfen dechnegol yn manylu ‘Fframwaith Sgiliau a Gwybodaeth ar gyfer AEI’ a ‘Llwybr Datblygu AEI’ a ddatblygir yn ddiweddar ac sy’n medru cynorthwyo datblygiad y gweithlu a meithrin gallu.
Datblygwyd y fframwaith gydag ymgysylltiad ac adborth gan ymarferwyr AEI o Gymru a thu hwnt. Yn ogystal, cynlluniwyd gyda mewnbwn gan randdeilliaid allweddol, gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, Byrddau Iechyd Lleol, swyddogion cynllunio, ymarferwyr iechyd yr amgylchedd ac arbenigwyr iechyd cyhoeddus.
Mae ymadawiad y Deyrnas Unedig o’r Undeb Ewropeaidd (UE) (y cyfeirir ato’n anffurfiol fel “Brexit”) yn ddigwyddiad digynsail yn hanes y DU, ac mae tystiolaeth o effaith Brexit ar ystod eang o feysydd polisi naill ai’n anhysbys neu’n cael ei herio’n sylweddol. Mae Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, wedi cynnal Asesiad o’r Effaith ar Iechyd (HIA) er mwyn deall goblygiadau posibl Brexit yn well ar gyfer iechyd a lles yng Nghymru yn y dyfodol.
Yn y rhifyn diweddaraf o Planning in London, darparodd Michael Chang (Cymdeithas Cynllunio Gwlad a Thref), Liz Green (WHIASU) a Jenny Dunwoody (Arup) drosolwg o gyfleoedd i integreiddio ystyriaethau iechyd mewn ystod o asesiadau yn y broses gynllunio. Mae’r rhain yn cynnwys yr Asesiad Amgylcheddol Strategol, Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol a’r Asesiad o’r Effaith ar Iechyd. Mae’r erthygl hon wedi’i gosod yng nghyd-destun y Cynllun Llundain arfaethedig, dogfen gynllunio strategol statudol ar gyfer Llundain gyfan, a fydd yn gweld bwrdeistrefi yn mabwysiadu’r polisi o ddefnyddio HIA yn y broses ceisiadau cynllunio. Bydd llawer o’r materion a’r themâu a nodir yn yr erthygl hefyd yn berthnasol ac o ddiddordeb i ymarferwyr yng Nghymru. (pp52-53)
Mae’r astudiaeth achos hwn yn amlinellu dull darpar Asesiad o’r Effaith ar Iechyd (HIA) i ail-ddatblygu fframwaith adweithiol presennol ar gyfer rheoli economi’r nos yng Nghymru. Drwy gynnwys amrywiaeth o randdeiliaid yn y broses, llwyddwyd i ail-lunio amcanion rhagweithiol realistig sy’n cynnwys iechyd a llesiant ill dau. Mae’r erthygl hon yn amlygu manteision HIA, a gellir ei defnyddio i lywio datblygiadau polisi yn y dyfodol.
Mae’r Fframwaith Adolygu Sicrhau Ansawdd hwn yn offeryn arfarnu hanfodol ar gyfer HIA. Ei nod yw sicrhau bod ymarfer HIA yng Nghymru yn parhau i adlewyrchu’r gwerthoedd, y safonau a’r dulliau gweithredu pwysig sydd wedi bod yn sail i ddatblygu ymarfer HIA yn y wlad hyd yma.
Briff ar integreiddio cynllunio ac iechyd y cyhoedd ar gyfer ymarferwyr sy’n gweithio mewn awdurdodau cynllunio lleol a sefydliadau iechyd yng Nghymru.
Lluniwyd y ddogfen ganllaw hon gan Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd Cymru ar ran Iechyd Cyhoeddus Cymru i sicrhau bod penderfyniadau sy’n ymwneud â thai ac Asesu Effaith ar Iechyd yn cael eu gwneud ar sail tystiolaeth. Dylid ei darllen ar y cyd ag Asesu Effaith ar Iechyd: Canllaw Ymarferol (Chadderton et al., 2012) sy’n darparu canllawiau a phrofformâu manwl sy’n ymwneud ag Asesu Effaith ar Iechyd.