Economïau Cylchol ac Iechyd a Llesiant Cynaliadwy

Mae’r adroddiad – ‘Economïau Cylchol ac Iechyd a Llesiant Cynaliadwy: Effaith iechyd cyhoeddus pan fydd cyrff cyhoeddus yn ailganolbwyntio ar leihau ac ailddefnyddio gwastraff yng Nghymru’, yn nodi sut y bydd gweithredu polisïau i leihau ac ailddefnyddio gwastraff, ochr yn ochr â chynlluniau ailgylchu yn cael effeithiau cadarnhaol posibl ar iechyd a llesiant ar gyfer poblogaeth gyfan Cymru. Mae’r rhain yn cynnwys cyfrannu at fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a thrwy hynny leihau llygredd aer, lleihau’r risg o ddigwyddiadau tywydd eithafol, cynhyrchu mwy o fwyd yn gynaliadwy a gwella iechyd meddwl a llesiant.

Awduron: Rachel Andrew, Mark Drane+ 3 mwy
, Liz Green, Richard Lewis, Angharad Wooldridge

Ymateb i Her Driphlyg Brexit, COVID-19 a’r Newid yn yr Hinsawdd o ran iechyd, llesiant a thegwch yng Nghymru, Pwyslais ar: Gymunedau Gwledig

Mae adroddiad newydd a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn tynnu sylw at sut y gallai dylanwadau cyfunol Brexit, Coronafeirws a newid hinsawdd weld cymunedau gwledig yng Nghymru yn profi adeg o newid mawr, gyda chyfleoedd ac effeithiau negyddol i’w llywio.

Awduron: Liz Green, Kathryn Ashton+ 7 mwy
, Michael Fletcher, Laura Evans, Tracy Evans, Lee Parry-Williams, Sumina Azam, Adam Jones, Mark Bellis

Mwyafu cyfleoedd iechyd a lles mewn cynllunio gofodol wrth ailsefydlu yn sgil y pandemig COVID-19

Mae’r pandemig wedi amlygu’n echblyg, ac mewn rhai enghreifftiau, wedi gwaethygu’r effeithiau o ran iechyd, lles ac anghydraddoldebau ar draws y boblogaeth sy’n deillio o benderfynyddion fel yr amgylchedd, y defnydd o dir, trafnidiaeth, yr economi a thai. Nod yr adroddiad hwn yw amlygu effeithiau iechyd cadarnhaol a negyddol polisïau cynllunio gofodol yn ystod y pandemig COVID-19 ar boblogaeth Cymru, dysgu o’r rhain, unrhyw ymyriadau cadarnhaol a chyd-fanteision er mwyn siapio amgylchedd mwy iach i bawb yn y dyfodol.

Awduron: Liz Green, Sue Toner+ 7 mwy
, Laura Evans, Lee Parry-Williams, Tom Johnson, Gemma Christian, Cheryl Williams, Sumina Azam, Mark Bellis

Does unman yn debyg i gartref? Archwilio effaith iechyd a llesiant COVID-19 ar dai heb ddiogelwch

Mae’r Asesiad o Effaith ar Iechyd (HIA) cynhwysfawr a chyfranogol hwn yn archwilio effaith iechyd a llesiant COVID-19 ar dai a thai heb ddiogelwch, ac yn edrych ar bwysigrwydd cael cartref cyson sydd o ansawdd da, yn fforddiadwy, ac sy’n teimlo’n ddiogel. Mae hefyd yn ystyried diogelwch deiliadaeth mewn perthynas â sefydlogrwydd, a gallu cynnal to uwch eich pen ac atal digartrefedd yn y pen draw. Dyma’r trydydd mewn cyfres, sy’n canolbwyntio ar effaith y pandemig COVID-19 ar boblogaeth Cymru gan gynnwys y ‘Polisi Aros Gartref ac Ymbellhau Cymdeithasol’ ac effaith gweithio gartref ac ystwyth. Gellir darllen yr adroddiad hwn ar y cyd â’r rhain a’r adrannau ar dai a gweithio gartref oddi mewn iddynt.

Awduron: Louise Woodfine, Liz Green+ 9 mwy
, Laura Evans, Lee Parry-Williams, Christian Heathcote-Elliott, Charlotte Grey, Yoric Irving-Clarke, Matthew Kennedy, Catherine May, Sumina Azam, Mark Bellis

Ffeithlun Effeithiau’r newid yn yr hinsawdd ar iechyd a llesiant

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi cyfres o ffeithluniau sy’n tynnu sylw at bwysigrwydd effaith newid yn yr hinsawdd ar iechyd a llesiant poblogaeth Cymru, ac i gefnogi cyrff cyhoeddus a busnesau i gymryd camau i fynd i’r afael ag unrhyw effeithiau.

Wedi’i lansio i gyd-fynd â Chynhadledd y Partïon 26 (COP26), mae’r ffeithluniau’n canolbwyntio ar y berthynas rhwng yr amgylchedd naturiol ac iechyd, y grwpiau poblogaeth yr effeithir arnynt a rhai o effeithiau allweddol iechyd a llesiant newid yn yr hinsawdd a’r grwpiau poblogaeth hynny y gellid effeithio arnynt.

Awduron: Nerys Edmonds, Liz Green

Ymateb i Her Driphlyg Brexit, COVID-19 a’r Newid yn yr Hinsawdd o ran iechyd, llesiant a thegwch yng Nghymru Pwyslais ar: Ddiogelwch Bwyd

Mae’r papur hwn yn amlygu sut y bydd dylanwadau ar y cyd Brexit, Coronafeirws a newid hinsawdd yn effeithio ar bawb, o bosibl, trwy’r bwyd a gynhyrchir, y ceir mynediad iddo, sydd ar gael ac sy’n cael ei fwyta.

Awduron: Liz Green, Kathryn Ashton+ 7 mwy
, Adam Jones, Michael Fletcher, Laura Morgan, Tom Johnson, Tracy Evans, Sumina Azam, Mark Bellis

Asesu’r Effaith ar Iechyd (HIA) a Chynlluniau Datblygu Lleol (CDLl): Pecyn Cymorth ar gyfer Ymarfer

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi creu pecyn cymorth ymarferol ar gyfer Asesiad o’r Effaith ar iechyd a fydd yn galluogi cynllunwyr i integreiddio iechyd yn hawdd yn eu cynlluniau datblygu ar gyfer y dyfodol.

Wedi’i ddylunio i helpu i hyrwyddo’r cydweithio rhwng sectorau cynllunio ac iechyd cyhoeddus yng Nghymru, mae’r adnodd yn ceisio sicrhau’r canlyniadau iechyd a llesiant cadarnhaol mwyaf posibl drwy bolisïau cynllunio defnydd tir sy’n creu cymunedau iach, teg a chydlynus.

Lawrlwythwch Adobe Acrobat Reader cyn agor yr adnodd hwn er mwyn cael elwa ar ei swyddogaethau’n llawn.

Awduron: Liz Green, Lee Parry-Williams+ 1 mwy
, Edwin Huckle

Ymateb i Her Driphlyg Brexit, COVID-19 a’r Newid yn yr Hinsawdd i iechyd, llesiant a thegwch yng Nghymru

Yn yr adroddiad hwn rhoddir trosolwg strategol o effaith Brexit, y pandemig COVID-19 a’r newid yn yr hinsawdd, sy’n
ddigwyddiadau arwyddocaol, a’r cysylltiadau rhyngddynt. Mae’n nodi’r penderfynyddion allweddol a’r grwpiau poblogaeth y mae’r Her Driphlyg yn effeithio arnynt ac yn darparu enghraifft allweddol ar gyfer pob penderfynydd.

Awduron: Liz Green, Kathryn Ashton+ 7 mwy
, Michael Fletcher, Adam Jones, Laura Evans, Tracy Evans, Lee Parry-Williams, Sumina Azam, Mark Bellis

‘Iechyd ym Mhob Polisi’ – Sbardun Allweddol ar gyfer Iechyd a Llesiant mewn Byd ar ôl y Pandemig COVID-19

Mae pandemig COVID-19 wedi codi proffil iechyd y cyhoedd ac wedi tynnu sylw at y cysylltiadau rhwng iechyd a meysydd polisi eraill. Mae’r papur hwn yn disgrifio’r rhesymeg dros fecanweithiau Iechyd ym mhob Polisi (HiAP), a’r egwyddorion sy’n sail iddynt, gan gynnwys Asesu’r Effaith ar Iechyd (HIA), profiadau, heriau a chyfleoedd ar gyfer y dyfodol.

Awduron: Liz Green, Kathryn Ashton+ 3 mwy
, Mark Bellis, Timo Clemens, Margaret Douglas

Defnyddio Asesiad o’r Effaith ar Iechyd (HIA) i ddeall goblygiadau penderfyniadau polisi ar gyfer iechyd a llesiant ehangach: ‘polisi aros gartref a chadw pellter cymdeithasol’ Covid-19 yng Nghymru

Mae’r papur hwn yn canolbwyntio ar Asesiad o’r Effaith ar Iechyd o’r ‘Polisi Aros Gartref a Chadw Pellter Cymdeithasol’ neu’r ‘Cyfnod Clo’ mewn ymateb i bandemig COVID-19 yng Nghymru a gynhaliwyd gan Sefydliad Iechyd y Cyhoedd Cymru. Mae’n disgrifio’r broses a’r canfyddiadau, yn cyfleu’r hyn a ddysgwyd ac yn trafod sut y defnyddiwyd y broses i ddeall yn well effeithiau iechyd a llesiant ehangach penderfyniadau polisi y tu hwnt i niwed uniongyrchol i iechyd. Mae hefyd yn archwilio rôl sefydliadau iechyd y cyhoedd wrth hyrwyddo a defnyddio Asesiad o’r Effaith ar Iechyd.

Awduron: Liz Green, Kathryn Ashton+ 4 mwy
, Sumina Azam, Mariana Dyakova, Timo Clemens, Mark Bellis

Newid llwyr. A yw COVID-19 wedi trawsnewid y ffordd y mae angen i ni gynllunio ar gyfer amgylchedd bwyd mwy iach a theg?

Nod y sylwebaeth hon yw archwilio rôl ôl-bandemig cynllunio gofodol fel mecanwaith ar gyfer gwella iechyd y cyhoedd trwy dynnu sylw at bersbectif system gyfan ar yr amgylchedd bwyd, gan gyfeirio at brofiadau yng Nghymru fel astudiaeth achos, a gorffen gyda sylwadau ar dueddiadau defnyddwyr yn y dyfodol o gwmpas mynediad at fwyd.

Awduron: Michael Chang, Liz Green+ 1 mwy
, Steve Cummins

Byd pandemig COVID-19 a thu hwnt: Effaith Gweithio Gartref ac Ystwyth ar iechyd y cyhoedd yng Nghymru

Oherwydd y pandemig a pholisïau fel y ‘Polisi Aros Gartref ac Ymbellhau Cymdeithasol’, mae gweithio gartref ac ystwyth wedi dod yn angenrheidiol i lawer o sefydliadau a chyflogeion. Nod yr AEI yw nodi effaith y newid hwn mewn arferion gwaith a chyfleu effeithiau gwahaniaethol newid o’r fath ar sefydliadau, poblogaeth waith Cymru, eu teuluoedd a chymunedau lleol.

Awduron: Liz Green, Richard Lewis+ 5 mwy
, Laura Evans, Laura Morgan, Lee Parry-Williams, Sumina Azam, Mark Bellis

Datblygiadau Diweddar mewn Gweithredu Asesu’r Effaith ar Iechyd ac Iechyd ym Mhob Polisi: Gwersi o Gynulliad Rhyngwladol yn Barcelona

Mae’r erthygl hon yn crynhoi trafodion o gynulliad rhyngwladol o arbenigwyr ym meysydd Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd (AEIau) ac Iechyd ym Mhob Polisi (HiAP) a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf 2019 yn Barcelona, Sbaen. Roedd y cyflwyniadau a’r trafodaethau panel yn cynnwys gwahanol fodelau, arferion gorau, a gwersi a ddysgwyd, gan gynnwys gan y llywodraeth, banciau rhyngwladol, melinau trafod, a’r byd academaidd. Trafododd y cyfranogwyr syniadau o bob cwr o’r byd ar gyfer cydweithredu traws-sector i hybu iechyd.

Awduron: Bethany Rogerson, Ruth Lindberg+ 8 mwy
, Fran Baum, Carlos Dora, Fiona Haigh, Arielle McInnis Simoncelli, Lee Parry-Williams, Genandrialine Peralta, Keshia M. Pollack Porter, Orielle Solar