Gwella iechyd a llesiant: Canllaw i ddefnyddio gwyddor ymddygiad mewn polisi ac ymarfer
Canllaw i ymarferwyr a llunwyr polisi yn egluro sut y gellir defnyddio gwyddor ymddygiad a’i chymhwyso’n ymarferol
Ymateb i’r argyfwng hinsawdd: defnyddio gwyddor ymddygiad
Canllaw a gynlluniwyd i gefnogi llunwyr polisi a gweithwyr proffesiynol i ddefnyddio gwyddor ymddygiad i greu ymyriadau effeithiol i ymateb i’r argyfwng hinsawdd
Datblygu Cyfathrebiadau ar Sail Ymddygiad
Offeryn rhyngweithiol i’ch helpu i fabwysiadu dull sy’n seiliedig ar ymddygiad wrth ddylunio’ch cyfathrebiadau
Argyfwng Costau Byw yng Nghymru Cymhwyso Gwyddor Ymddygiad
Mae deall a ffurfio ymddygiadau, gan gynnwys manteisio ar wasanaethau cymorth, yn hanfodol wrth ymateb i’r argyfwng costau byw. Mae’r ffeithlun hwn yn dangos sut y mae modd defnyddio gwyddor ymddygiad, gan gyfeirio at yr adroddiad a luniwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r adnoddau a gynhyrchwyd gan Uned Gwyddor Ymddygiad Cyngor Sir Hertford.
Penderfynu ar ymddygiad targed a phoblogaeth darged – offeryn ymarferol
Offeryn ymarferol, rhyngweithiol i’ch helpu i ystyried a diffinio eich ymddygiad targed a phoblogaeth darged, wrth i chi greu ‘manyleb ymddygiadol’
Diagnosis Ymddygiadol: Sut i gasglu mewnwelediadau ymddygiadol
Offeryn ymarferol, rhyngweithiol i’ch helpu i ystyried a diffinio eich ymddygiad targed a phoblogaeth darged, wrth i chi greu ‘manyleb ymddygiadol’

Archwilio’r ffactorau sy’n dylanwadu ar gymhwyso gwyddor ymddygiad o fewn ymarfer iechyd y cyhoedd ledled Cymru: Adroddiad cryno
Adroddiad i archwilio ffactorau sy’n dylanwadu ar gymhwyso gwyddor ymddygiad o fewn ymarfer iechyd y cyhoedd ledled Cymru
Diagnosis ymddygiadol: Mapio mewnwelediadau a dewis swyddogaethau ymyrryd
Offeryn ymarferol, rhyngweithiol i’ch helpu i flaenoriaethu pa rwystrau a/neu hwyluswyr i’w targedu yn seiliedig ar fewnwelediad ymddygiadol, cyn archwilio pa swyddogaethau ymyrryd a allai fod yn fwyaf priodol i’w mabwysiadu.
Diagnosis Ymddygiadol – Dewis mathau o ymyriadau
Offeryn ymarferol, rhyngweithiol i’ch helpu i ystyried pa fathau o weithredu a allai fod yn fwyaf priodol ar gyfer cyflwyno’r ymyriad a ddewiswyd gennych.
Offeryn Darganfod Ymddygiad
Offeryn ymarferol, ar-lein i’ch tywys trwy’r ystyriaethau hanfodol i ddeall a dylanwadu ar ymddygiadau a allai fod ar waith yn eich mater iechyd gwell.
Nodi a Chymhwyso Technegau Newid Ymddygiad
Offeryn ymarferol, rhyngweithiol sy’n cyflwyno Technegau Newid Ymddygiad, a ystyrir yn ‘gynhwysion gweithredol’ ymyriadau newid ymddygiad. Mae’r offeryn yn eich tywys trwy sut i nodi a chyflwyno Technegau Newid Ymddygiad, gan ddefnyddio’r model COM-B a’r Olwyn Newid Ymddygiad.
Gwerthuso Ymyraethau Newid Ymddygiad
Wedi’i ysgrifennu mewn cydweithrediad â’r Tîm Gwerthuso Canolog ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae hwn yn offeryn ymarferol a rhyngweithiol sy’n nodi pwyntiau allweddol i’w hystyried wrth i chi gynllunio sut i brofi a gwerthuso eich ymyriad newid ymddygiad.
Defnyddio Gwyddor Ymddygiad i wella a diogelu iechyd yng Nghymru
Mae’r offeryn hwn wedi’i gynllunio i gasglu astudiaethau achos o’r modd y defnyddiwyd gwyddor ymddygiad i sicrhau’r effaith fwyaf bosibl.

Gwyddor Ymddygiad mewn Ymarfer a Pholisi: Ailgylchu yn y Cartref
Er mwyn newid ymddygiad sy’n gysylltiedig â’r hinsawdd yn effeithiol, rhaid inni bod yn glir ac yn benodol am yr ymddygiad yr ydym yn gobeithio ei newid, deall y rhwystr(au) a/neu’r hwylusydd/hwyluswyr i’r ymddygiad targed a gweithredu ystod eang o ymyriadau i fynd i’r afael â/neu wella’r rhwystr(au) a/neu’r hwylusydd/hwyluswyr a nodwyd. Gan ddefnyddio ailgylchu’r cartref fel enghraifft, diben yr astudiaeth achos hon yw dangos sut y gall cymhwyso gwyddor ymddygiad helpu i nodi a gweithredu ystod o wahanol fathau o ymyriadau a all helpu i fynd i’r afael yn effeithiol â phenderfynyddion ymddygiad a dylanwadu ar ymddygiad.

Dylanwad Uned Gwyddor Ymddygiad Iechyd Cyhoeddus Cymru ar draws y system iechyd cyhoeddus: Gwerthusiad mapio realaidd o’r crycheffeithiau
Mae’r adroddiad hwn yn tynnu sylw at themâu allweddol i’w datblygu sy’n cynnwys meithrin perthnasoedd, datblygu gallu, a’r defnydd ymarferol o wyddor ymddygiad mewn polisi ac mewn ymarfer. Fel dull hanfodol o wella canlyniadau iechyd a lleihau anghydraddoldebau, gall gwyddor ymddygiad helpu i wneud y gorau o bolisïau, gwasanaethau a chyfathrebu i gefnogi’r gwaith o gyflawni Strategaeth Hirdymor Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae’r gwerthusiad hwn o effeithiau ehangach realaidd yn darparu argymhellion allweddol i ysgogi effaith barhaus.

Menter Cyfathrebiadau ar Sail Ymddygiad (BICI): Adroddiad Datblygu a Gweithredut
Lansiwyd y Fenter Cyfathrebu sy’n Ystyriol o Ymddygiad ym mis Mehefin 2024, gyda dros 35 o randdeiliaid o ystod o dimau gwahanol yn dod â darn o gyfathrebu i’w optimeiddio trwy gymhwyso gwyddor ymddygiad. Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys gwybodaeth am sut y cafodd y fenter ei datblygu a’i chyflwyno, gan gynnwys mewnwelediad gwerthuso prosesau gan fynychwyr carfanau a dwy astudiaeth achos.

Menter Cyfathrebu sy’n Ystyriol o Ymddgiad Astudiaethau Achos
Lansiwyd y Fenter Cyfathrebu sy’n Ystyriol o Ymddygiad (BICI) gyntaf yn 2024, a daeth dros 30 o unigolion o amrywiaeth o dimau gwahanol â darn o gyfathrebu i’w wella trwy ddefnyddio gwyddor ymddygiad. Mae’r casgliad hwn o astudiaethau achos yn helpu i amlinellu’r defnydd go iawn o Gyfathrebu sy’n Ystyriol o Ymddygiad. Maent yn cynnwys gwaith gan dimau sgrinio, timau brechu, yn ogystal â Gofal Sylfaenol Gwyrddach a Gofal Sylfaenol

BICI: Menter Gwaith Cyfathrebu sy’n Ystyriol o Ymddygiad Llyfr Gwaith
Mae’r llyfr gwaith rhyngweithiol hwn yn adeiladu ar fframwaith ‘SCALE’, a gyflwynwyd gan yr Uned Gwyddor Ymddygiad am y tro cyntaf yn 2023. Mae’r llyfr gwaith yn cynnwys nifer o weithgareddau, sydd wedi’u cynllunio i helpu i’ch arwain trwy’r broses o ddatblygu darn o gyfathrebu trwy ddefnyddio gwyddor ymddygiad.

Gwyddor Ymddygiad Ar Waith | Uned Gwyddor Ymddygiad @ Iechyd Cyhoeddeus Cymru | Adolygiad 2024-25
Mae’r adroddiad hwn ar gyfer staff, timau a gwasanaethau yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, a’r system iechyd y cyhoedd ehangach yng Nghymru. Mae’r ddogfen yn nodi’r amrywiaeth o waith, ar draws yr ystod o flaenoriaethau, y mae’r Uned Gwyddor Ymddygiad wedi’i wneud dros y flwyddyn ddiwethaf ac mae’n amlygu rhai o’n gweithgareddau allweddol. Mae’n cydnabod y partneriaid sydd wedi gweithio gyda ni, yn rhoi mewnwelediad i’r rhai sy’n ystyried gweithio gyda ni ac yn myfyrio ar ein heffaith yn ogystal â’n cyflawniad.

Gwyddor Ymddygiad ar gyfer Gwell Iechyd: Sut ydyn ni’n gwneud yn Iechyd Cyhoeddus Cymru?
Infograffeg sy’n crynhoi’r gwerthusiad a’r adrodd ar ein cynnydd ar draws pum maes ‘Ymrwymiad Strategol’ Sefydliad Iechyd y Byd, er mwyn gweithio tuag at gymhwyso gwyddoniaeth ymddygiadol yn rheolaidd ar gyfer iechyd gwell yng Nghymru.