Mae’r Is-adran Datblygu Iechyd wedi cynhyrchu catalog.
Dyma’r cyntaf mewn cyfres o friffiau gwybodaeth fel rhan o waith y Ganolfan Ryngwladol Cydlynu Iechyd (IHCC) i wella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth, yn ogystal â chefnogi’r gwaith o ddatblygu gallu ar gyfer cael mynediad i gyllid yr UE ar draws y GIG yng Nghymru.
Bydd y gyfres yn rhoi trosolwg cyffredinol o’r rhaglenni, y prif ffynonellau gwybodaeth a’r gweithdrefnau gwneud cais yn ogystal â’r galwadau sydd ar gael ar gyfer 2016-17.
Mae’r rhifyn cyntaf hwn yn cynnwys Horizon 2020 a’r Drydedd Raglen Iechyd.Bydd y rhai nesaf yn archwilio Cyllid Rhanbarthol Ewrop fel Cronfeydd Strwythurol (Cronfa Ddatblygu Gymdeithasol a Rhanbarthol Ewrop, Cronfeydd Cydweithredu Tiriogaethol (Interreg), ac eraill.
Mae’r Catalog ar gael i’w lawrlwytho (Saesneg yn unig).
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â [email protected]