Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi bod yn rhan o brosiect MasterMind Ewrop ers mis Mawrth 2014. Daeth y prosiect hwn i ben ym mis Chwefror 2017.
Nodau’r prosiect hwn oedd sicrhau bod triniaeth o ansawdd uchel ar gyfer iselder ar gael yn ehangach ar gyfer oedolion sy’n dioddef o’r salwch drwy ddefnyddio TGCh. Y nod oedd asesu drwy weithredu’r prosiect ar raddfa fawr (mwy na 5000 o gleifion ar draws y partneriaid o’r UE sy’n cymryd rhan yn y prosiect) effaith Therapi Gwybyddol Ymddygiadol cyfrifiadurol (cCBT) a gofal cydweithredol drwy ddefnyddio Fideogynadledda (ccVc) i drin iselder ar draws 10 o wledydd yr Undeb Ewropeaidd a gwledydd cysylltiedig.
Roedd y consortiwm MasterMind yn cynnwys 26 o bartneriaid o bob rhan o Ewrop a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys oedd yr unig gyfranogwr o Gymru yn y Prosiect.
Cynhaliwyd y treial am 17 mis. Y targed a osodwyd ym Mhowys oedd cynnwys 500 o gleifion yn y defnydd o cCBT/ccVc, ac o blith y rhain, llwyddwyd i gynnwys 445. Rhoddodd Powys ‘Beating the Blues’ ar waith, sef gwasanaeth CBT ar-lein, yn dilyn proses dendro unigol. Cwrs therapi gwybyddol ymddygiadol ar-lein wyth sesiwn yw ‘Beating the Blues’ ond gan ei fod yn wasanaeth ar-lein, gall y amseriadau fod yn hyblyg er mwyn diwallu anghenion y defnyddiwr.
Nid prif ffocws y prosiect hwn oedd profi neu wrthbrofi effeithiolrwydd clinigol neu effeithlonrwydd cCBT gan fod tystiolaeth glinigol gadarn ar gael eisoes, wedi’i hategu gan ganllawiau NICE, bod CBT ar-lein yn gallu bod yn ddull effeithiol o gyflwyno therapi gwybyddol ymddygiadol. Ffocws y prosiect hwn oedd edrych ar y ffactorau a’r rhwystrau allweddol sy’n hwyluso ac yn llesteirio gweithredu gwasanaeth o’r fath.
Drwy’r prosiect, y prif fanteision a welwyd gennym oedd:
- Mynediad cyfleus mewn ardaloedd a chymunedau gwledig, dim gofyniad i deithio, roedd modd ei gwblhau yn unrhyw le sydd â mynediad i’r rhyngrwyd;
- Mae’n grymuso cleifion, sy’n gallu ac a fyddai’n elwa ar y driniaeth, i gael y cyfle i reoli eu hiechyd meddwl eu hunain tra bod gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn dal i gael golwg gyffredinol ar eu cynnydd;
- Mae’n darparu ateb i gleifion mewn achosion o ynysu cymdeithasol;
- Mae’n rhoi mwy o amlygrwydd i fwriadau hunanladdol a throseddol ymysg cleifion sy’n dioddef o iselder ysgafn i gymedrol;
- Drwy ddefnyddio TGCh ar gyfer trin iselder a/neu bryder, gall dinasyddion â’r cyflyrau iechyd meddwl cyffredin hyn feistroli eu triniaeth eu hunain a thrwy hynny oresgyn eu hanawsterau a pharhau i’w rheoli gydag ychydig iawn o gyfraniad gan weithwyr iechyd meddwl proffesiynol.
Canfu Bwrdd Iechyd Addysgu Powys mai prif fanteision gweithio gyda gwahanol bartneriaid Ewropeaidd oedd; cyd-ddysgu, y gallu i gydweithio, rhannu syniadau arloesol a gwersi a ddysgwyd a’r gallu i gydweithio gyda phartneriaid cenedlaethol, sy’n wynebu’r un heriau â ni h.y. natur wledig, mynediad i therapïau seicolegol oherwydd cyfyngiadau daearyddol, ac ati
Mae cysylltiad uniongyrchol rhwng y defnydd o cCBT a’r uchelgeisiau a nodir yng Nghynllun Tymor Canolig Integredig Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, ‘Gwella iechyd meddwl a lles emosiynol pobl Powys’ ac mae’n cyd-fynd yn strategol ag ‘Iechyd a Gofal Gwybodus – strategaeth iechyd a gofal cymdeithasol ddigidol ar gyfer Cymru’.
Mae’r prosiect wedi llwyddo i ddangos y manteision uchod a oedd, ar y cyd â’r canllawiau NICE a’r dystiolaeth glinigol mewn cysylltiad â therapi gwybyddol ymddygiadol, yn rhoi’r anogaeth i ni wneud cais am ragor o gyllid gan Lywodraeth Cymru drwy’r Gronfa Effeithlonrwydd Drwy Dechnoleg, a sicrhau’r cyllid hwnnw. Bydd hyn yn galluogi Bwrdd Iechyd Addysgu Powys i barhau i gynnig CBT ar-lein i bobl Powys, a chynyddu’r gwasanaethau hyn ym Mhowys yn seiliedig ar ei weithrediad llwyddiannus drwy MasterMind.
Yn ystod y prosiect MasterMind a thrwy fforymau ymgysylltu amrywiol dangosodd sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus ddiddordeb mewn cymryd rhan mewn gweithredu CBT ar-lein. Byddem yn awr yn croesawu’r cyfle i weithio gydag eraill fel rhan o brosiect a ariennir gan y Gronfa Effeithlonrwydd drwy Dechnoleg i ymchwilio i’r cyfle i gydweithio ar wasanaeth cCBT Cymru Gyfan.
Mae rhagor o wybodaeth am yr erthygl uchod a’r prosiect MasterMind ehangach ar gael yn: MasterMind Ewrop (saesneg yn unig), neu drwy gysylltu â Daniel Davies / Becka Williams ym Mhowys ar: 01874 712427.