Yn ddiweddar, cynhaliodd Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) Ewrop yr Ysgol Haf 1af ar Iechyd Ffoaduriaid a Mudwyr, cwrs dwys, 5 diwrnod, gafodd ei gynnig o dan fantell Hyb Gwybodaeth Ewropeaidd WHO ar Iechyd a Mudo. Cynhaliwyd yr Ysgol Haf yn Syracuse, yr Eidal, ar 10–14 Gorffennaf 2017. Dewiswyd Syracuse fel lleoliad oherwydd lefel uchel arbenigedd awdurdodau’r Eidal yn derbyn mudwyr.
Trefnwyd yr Ysgol Haf gyda chefnogaeth Gweinyddiaeth Iechyd yr Eidal ac awdurdodau iechyd rhanbarthol Sisili, ac mewn cydweithrediad â Sefydliad Rhyngwladol Mudo a Menter Iechyd yr Americas ym Mhrifysgol California, Berkeley, Unol Daleithiau America; y Comisiwn Ewropeaidd; a Chymdeithas Iechyd y Cyhoedd Ewrop.
Cafwyd dros 300 o geisiadau ar gyfer yr ysgol, a mynychodd cyfanswm o 76 o gyfranogwyr o ystod o asiantaethau rhyngwladol.
Dywedodd Lauren Ellis, Iechyd Cyhoeddus Cymru, a gafodd le yn yr Ysgol Haf: “Roedd yr Ysgol Haf yn gyfle rhagorol i gysylltu â’r rheiny oedd yn gweithio ar yr agenda mudwyr a ffoaduriaid, gan agor drysau i gydweithredu a chyfnewid gwybodaeth yn y dyfodol”.
Am fwy o wybodaeth am weithgaredd WHO ar iechyd mudwyr a ffoaduriaid, ewch i wefan WHO. (Saesneg yn unig)