Yn ystod y flwyddyn yn dilyn colli swyddi o ganlyniad i ddigwyddiadau diweithdra torfol, gall gweithwyr brofi dwbl y risg o farwolaeth o drawiad ar y galon neu strôc, a chynnydd uwch eto o risg o glefydau cysylltiedig ag alcohol. Gall effeithiau andwyol ar iechyd bara am ddegawdau, gydag aelodau teuluoedd yn cael eu heffeithio bron cymaint â’r rhai sy’n wynebu colli eu swyddi.  Gan weithio gydag arbenigwyr ar draws y byd, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi arwain gwaith newydd ar ddulliau iechyd cyhoeddus ar gyfer atal a pharatoi ar gyfer Digwyddiadau Diweithdra Torfol, sy’n canolbwyntio’n benodol ar fynd i’r afael â’r effaith ar iechyd unigolion, teuluoedd a chymunedau. 

Dywedodd awdur yr adroddiad, Dr Alisha Davies, Pennaeth Ymchwil a Datblygiad yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae cyflogaeth ac iechyd yn gydgysylltiedig – rydym yn gwybod bod cyflogaeth o ansawdd da sy’n ddiogel yn dda i iechyd. Yn anffodus mae colli swyddi ar raddfa fawr yn digwydd, a gall yr effaith fod yn ddistrywiol i’r rhai a gyflogir yn uniongyrchol, ac ymestyn i deuluoedd a chymunedau. Yn rhyngwladol, nid yw’r digwyddiadau hyn yn anghyffredin, ond mae llawer y gallwn ei wneud i atal, cyfyngu a pharatoi ar gyfer yr effaith ar iechyd pan fyddant yn digwyddMae’r adroddiad hwn yn amlygu pwysigrwydd sicrhau bod iechyd a llesiant wrth wraidd gweithredu ataliol ac ymatebol.” 

Mae’r adroddiad – ‘Digwyddiadau Diweithdra Torfol (DDTau) – Atal ac Ymateb o Safbwynt Iechyd Cyhoeddus’ – hefyd yn darparu fframwaith wyth cam i gefnogi’r sectorau cyhoeddus, gwirfoddol a phreifat gydag atal ac ymateb i ddigwyddiadau diweithdra torfol, a chynllunio ar eu cyfer.

Mae’r fframwaith yn nodi’r prif flaenoriaethau lle y gall dulliau iechyd cyhoeddus helpu gyda nodi ardaloedd sydd mewn perygl yn gynnar a sicrhau bod ymatebion yn mynd i’r afael ag anghenion iechyd a llesiant pawb yr effeithir arnynt yn cynnwys teuluoedd, y gymuned ehangach a grwpiau penodol sy’n agored i niwed, fel y rhai sy’n ddi-waith yn y tymor hir.

Dywedodd yr Athro Syr Mansel Aylward, Cadeirydd Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae bod yn barod ar gyfer digwyddiadau diweithdra torfol yn hanfodol ac yn berthnasol yn fyd-eang. Gan ddefnyddio materion cyffredin ar draws ymatebion cenedlaethol a rhyngwladol i ddigwyddiadau diweithdra torfol, mae’r adroddiad hwn yn nodi’n glir bwysigrwydd mynd i’r afael ag effeithiau iechyd y digwyddiadau hyn, ac yn darparu fframwaith y gellir ei fabwysiadu gan wledydd eraill sy’n wynebu diweithdra torfol ar hyn o bryd, neu’r bygythiad ohono.”

Mae rhai enghreifftiau o’r prif feysydd a amlinellir yn yr adroddiad yn cynnwys:

  • Ymgorffori mapio cyflogwyr strategol mewn ardal, ochr yn ochr â thueddiadau diwydiannol cenedlaethol a byd-eang, yn y broses o gynllunio iechyd cyhoeddus lleol neu genedlaethol i helpu i ganfod ardaloedd sydd mewn perygl o Ddigwyddiadau Diweithdra Torfol.
  • Gwneud defnydd o offer iechyd cyhoeddus, gan gynnwys Asesiadau Effaith ar Iechyd, a’r Offeryn Adrodd Asedau Iechyd i ddeall effaith economaidd, cymdeithasol ac iechyd Digwyddiadau Diweithdra Torfol a gallu cymunedau i ddelio â sioc.
  • Sicrhau cynrychiolaeth systematig o bartneriaid iechyd a chymunedol ar y grŵp ymateb strategol i wella’r ddealltwriaeth o’r risgiau iechyd aciwt a thymor hwy i gymunedau, a helpu i ysgogi adnoddau iechyd a chymunedol i gefnogi’r sefyllfa.

Dywedodd Llywydd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Iechyd Cyhoeddus y DU, Dr Andrew Furber: “Bydd  y canllaw hwn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru o werth mawr i Gyfarwyddwyr Iechyd Cyhoeddus yng Nghymru ond hefyd ledled gweddill y DU, ac yn rhyngwladol lle mae arweinwyr iechyd cyhoeddus yn ceisio lliniaru trychinebau o’r fath.

“Mae cael swydd dda yn cyfrannu’n fawr iawn at gael iechyd da. Gall colli eich swydd, yn enwedig yng nghyd-destun diweithdra torfol sydyn, gael effeithiau dwys ar iechyd a llesiant.

“Fel y mae’r canllaw hwn yn ei nodi’n glir, ochr yn ochr ag ymdrin â chymorth cyflogaeth ac ariannol, rhaid i unrhyw ymateb gael ei lywio gan yr angen i warchod a gwella iechyd a llesiant.”

Dywedodd yr Athro Mark Bellis o Iechyd Cyhoeddus Cymru, “Er gwaethaf y ffaith ein bod yn gobeithio na fyddant byth yn digwydd, mae iechyd cyhoeddus fel mater o drefn yn cynllunio ac yn paratoi ar gyfer digwyddiadau tywydd mawr, llygredd a digwyddiadau eraill a allai fod yn ddistrywiol. Mae’r adroddiad hwn yn dangos sut mae digwyddiadau diweithdra torfol yn gofyn am ddull iechyd cyhoeddus rhagofalus tebyg fel ein bod yn barod i leihau’r niwed i iechyd y rhai sy’n wynebu colli eu swyddi yn ogystal â’r teuluoedd a’r cymunedau o’u cwmpas.”

Yr wyth prif faes blaenoriaeth ar gyfer gweithredu a amlinellir yn yr adroddiad yw:

1)            Nodi cymunedau sydd mewn perygl o Ddigwyddiadau Diweithdra Torfol.
               ac asesu’r effaith bosibl 

2)            Datblygu dull rhybudd cynnar ar gyfer Digwyddiadau Diweithdra Torfol.
               posibl

3)            Ysgogi ymateb amlsector yn gynnar, gan gynnwys safbwyntiau iechyd a chymunedol 

4)            Gweithredu cynnar o ran cymorth teir-ran (ailgyflogaeth, ariannol, iechyd a llesiant)  i   weithwyr sy’n colli eu swyddi

5)            Mynd i’r afael ag anghenion grwpiau penodol, gan gynnwys y rhai hŷn a’r rhai anfedrus

6)            Ymestyn cymorth i aelodau o’r teulu

7)            Cefnogi’r gymuned ehangach a harneisio asedau

8)            Gwerthuso effaith yr ymateb


Mae mesurau ataliol eraill a nodwyd yn yr adroddiad yn cynnwys ystyriaeth tymor hwy o ran  datblygu sgiliau, buddsoddi ac amrywiaethu, cyfrifoldeb cymdeithasol cyflogwyr, a chynyddu gwydnwch unigolion a chymunedau. 

Mae’r adroddiad a’r fframwaith ymateb hwn yn offeryn pwysig i lywio gweithredu i leihau canlyniadau a niwed Digwyddiadau Diweithdra Torfol i iechyd y boblogaeth.

Report

Adroddiad llawn

Inffograffeg

Cyswllt

Dr Alisha Davies: [email protected]