Mae Agenda’r Cenhedloedd Unedig 2030 ar gyfer Datblygu Cynaliadwy, wedi ei hategu gan Iechyd 2020 (fframwaith polisi iechyd Ewropeaidd WHO) yn gerrig milltir ar gyfer datblygiad dynol a phlanedol. Mae datblygu cynaliadwy yng Nghymru a rhanbarthau Ewropeaidd eraill yn nodi cyfleoedd i weithredu’r agendâu hyn ar lefelau cenedlaethol a rhanbarthol. Mae’r cyhoeddiad yn canolbwyntio ar ddysgu o’r daith datblygu cynaliadwy yng Nghymru, gan ddisgrifio strwythur Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, y profiad cynnar a gafwyd trwy ei gweithredu a’i galluogwyr, yr heriau a’r cyfleoedd sy’n ymwneud â datblygu cynaliadwy yng Nghymru.

Mae’r cyhoeddiad yn cynnwys astudiaethau achos o bum rhanbarth yn Ewrop, gyda’r nod o wella dealltwriaeth o rôl allweddol rhanbarthau yn trosi blaenoriaethau byd-eang yn bolisïau a gweithredoedd effeithiol. Mae’r adroddiad yn atgyfnerthu’r angen i fuddsoddi i wella penderfynyddion cymdeithasol, economaidd, gwleidyddol, diwylliannol, masnachol ac amgylcheddol iechyd a lleihau anghydraddoldebau iechyd.

Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Swyddfa Ranbarthol Ewrop Sefydliad Iechyd y Byd (WHO EURO). (Saesneg yn unig)