Cynrychiolwyd Rhaglen Gweithredu’n Gynnar Gyda’n Gilydd (EAT), ymagwedd aml-asiantaeth, wedi ei lywio gan ACE gyda’r nod o drawsnewid plismona bregusrwydd yng Nghymru trwy ymyrraeth gynnar ac ataliaeth sy’n mynd at wraidd y mater, ym 4edd gynhadledd Gorfodi’r Gyfraith ac Iechyd y Cyhoedd Ryngwladol (LEPH) yn Toronto ym mis Hydref.
Wedi eu cynnwys yn y ddirprwyaeth oedd cynrychiolwyr o Iechyd Cyhoeddus Cymru, Heddlu De Cymru a Swyddfa’r Comisiynwyr Troseddu, Hyb ACE, y Swyddfa Gartref, Llywodraeth Cymru ac arweinwyr o raglen EAT. Cyflwynodd y tîm sesiwn fawr o’r enw ‘Pam y mae ymagwedd iechyd y cyhoedd tuag at blismona yn hanfodol yn yr 21 Ganrif a chyflwynwyd gweithdy ar ddefnyddio data cysylltiedig i roi cynrychiolaeth fwy holistaidd o drais i lywio ymyrraeth gynnar aml-asiantaeth.
Cadeiriwyd y sesiwn fawr gan Gomisiynydd Troseddu Heddlu De Cymru, y gwir Anrhydeddus Alun Michael, a chyflwynwyd cynrychiolaeth ar y cyd gan bedwar aelod o’r Tîm Gweithredu’n Gynnar Gyda’n Gilydd, yn cynnwys sut mae hyn yn cael ei gyflwyno a’i werthuso yn weithredol. Roedd yr adborth ar ôl y sesiwn yn gadarnhaol iawn.
Mae’r rhaglen hon yn denu diddordeb rhyngwladol sylweddol, gyda chydweithwyr yn dweud bod Cymru’n arwain yn y maes gwaith hwn. Roedd y gynhadledd yn gyfle rhagorol i rwydweithio gyda chydweithwyr rhyngwladol sydd hefyd yn gweithio yn yr un maes.
Sylw allweddol o’r gynhadledd oedd ei fod yn ymddangos mai Cymru yw’r unig wlad sy’n gweithredoli ymchwil ACE, ac yn gwneud newidiadau yn seiliedig ar yr ymchwil a’r dystiolaeth mewn plismona a chyfiawnder troseddol, sef yr hyn sydd yn gwneud rhaglen EAT mor unigryw.
Yn dilyn cynhadledd LEPH, mynychodd yr Athro Nick Crofts o Brifysgol Melbourne ddigwyddiad Gweithredu’n Gynnar Gyda’n Gilydd a Phartneriaid a gynhaliwyd yng Nghasnewydd ar ddydd Mawrth 13 a Dydd Mercher 14 Tachwedd. Roedd galw mawr am y digwyddiad, a mynychodd dros 140 o gynadleddwyr yn cynrychioli plismona a chyfiawnder troseddol, y gwasanaethau statudol ac asiantaethau’r trydydd sector ar draws y DU ac yn rhyngwladol. Roedd agenda lawn yn cynnwys cymysgedd o gynrychioliadau, sesiynau rhyngweithiol, gweithdai a sesiwn panel o arbenigwyr.
Hyd yma, mae’r adborth wedi bod yn gadarnhaol iawn, gyda’r cynadleddwyr yn dweud bod y digwyddiad wedi bod yn werthfawr o ran clywed am y gwaith sydd yn digwydd yma yng Nghymru a’r hyn y gallant fynd ag ef yn ôl i’w sefydliadau eu hunain. Yn bwysig iawn, roedd yn gyfle ar gyfer rhwydweithio, rhannu arfer gorau a thrafodaethau cyfoethog.