Mae Fforwm Iechyd Ewropeaidd blynyddol Gastein yn dod â gweithwyr iechyd y cyhoedd ynghyd ar draws Ewrop a thu hwnt. Mae’r Fforwm yn dod â gwleidyddion, gwneuthurwyr penderfyniadau, cynrychiolwyr grwpiau â diddordeb ac arbenigwyr ym maes iechyd y cyhoedd a gofal iechyd ynghyd ac yn cynnig llwyfan i lunio dyfodol iechyd y cyhoedd yn Ewrop. Mae’n gyfle i gryfhau’r achos dros weithredu Ewropeaidd ar faterion iechyd.
Y thema eleni oedd Iechyd a Datblygu Cynaliadwy: Dewisiadau Gwleidyddol Mentrus ar gyfer Agenda 2030. Archwiliodd y Fforwm pa flaenoriaethau i’w gosod ym maes iechyd y cyhoedd er mwyn cyflawni Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig yn y ffordd orau, a’r camau sy’n ofynnol i ddatblygu a chyflawni polisïau economaidd a chymdeithasol cynaliadwy.
Fel disgybl Fforwm Ieuenctid Gastein, mynychodd Anna Stielke (Swyddog Cymorth Rhaglenni, Iechyd Rhyngwladol, Iechyd Cyhoeddus Cymru) y gynhadledd. Mae’r ysgoloriaeth yn galluogi gweithwyr iechyd y cyhoedd proffesiynol ifanc i gymryd rhan yn y gynhadledd, cyfrannu at sesiynau, mynychu gweithdai sgiliau a dod yn rhan o rwydwaith ar draws Ewrop.
Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Fforwm Iechyd Ewropeaidd Gastein (saesneg yn unig)