Mae Cymru wedi bod yn agos-gysylltiedig â Rhwydwaith Iechyd ar gyfer Rhanbarthau (RHN) Ewrop WHO ers blynyddoedd lawer. Mae aelodaeth o’r rhwydwaith yn rhoi cyfleoedd gwerthfawr i ddatblygu perthynas ag ystod o ranbarthau a gwledydd gwahanol yn Rhanbarth Ewrop WHO, gyda’r bwriad o rannu gwybodaeth am waith yng Nghymru a dysgu o brofiadau rhannau eraill o Ewrop.
Fel rhan o’i raglen waith, mae’r RHN yn trefnu ymweliad astudio a gynhelir gan aelod gwahanol o’r rhwydwaith bob blwyddyn. Cynhaliwyd y digwyddiad eleni gan Andalusia ac fe’i cynhaliwyd yn Seville, Sbaen ar 12-14 Tachwedd. Cynrychiolwyd Cymru yn yr ymweliad gan Nicola Evans a Rhodri Jones o Is-adran Iechyd y Cyhoedd Llywodraeth Cymru.
Prif ddiben yr astudiaeth oedd dysgu mwy am strwythuro a rheoli system iechyd y cyhoedd yn Andalusia, sy’n cael ei arwain gan Gynllun Iechyd Andalwsaidd a’i ategu gan haen drawiadol o gynlluniau cyflwyno lleol, sy’n benodol i destun. Creodd y trefnwyr raglen amrywiol o sesiynau a digwyddiadau, yn cwmpasu testunau sydd yn berthnasol iawn i Gymru – roedd y rhain yn cynnwys sesiwn am ymagwedd Andalusia i ddeddfwriaeth asesu effaith ar iechyd, ymweliad â “chanolfan iechyd” amlddisgyblaethol, a manylion am ymagweddau Andalusia tuag at asedau iechyd cymunedol sydd â thebygrwydd i’r agenda ragnodi gymdeithasol yng Nghymru. Roedd yn ddau ddiwrnod llawn, ond gwnaeth y trefnwyr amser i ymweld ag Alcázar Seville, oedd yn gofiadwy iawn.
Roedd yn amlwg o’r ymweliad bod gan Gymru gryn dipyn o dir cyffredin gydag Andalusia yn ein dyheadau ar gyfer ein systemau iechyd y cyhoedd, yn ogystal â mewn rhai o’r strwythurau a’r ymagweddau polisi sy’n cael eu rhoi ar waith ar gyfer gwella a diogelu iechyd a lles ein poblogaethau perthnasol. Yn arbennig, mae gan gynllun iechyd Andalusia ffocws cryf ar gyflwyno ‘Iechyd ym Mhob Polisi’ a lleihau anghydraddoldebau iechyd yn y rhanbarth – dau fater sydd yn flaenllaw yn agenda iechyd y cyhoedd yng Nghymru.
Yn ogystal â dysgu am Andalusia, roedd yr ymweliad yn ddefnyddiol iawn yn canfod mwy am debygrwydd mewn ymagweddau iechyd y cyhoedd gyda rhanbarthau eraill yn y rhwydwaith, yn ogystal ag amlygu rhai gwahaniaethau allweddol.
Roedd yr ymweliad hwn yn gyfle cofiadwy i ymweld â system iechyd y cyhoedd arall ag uchelgais a blaenoriaethau tebyg i Gymru. Roedd hefyd yn galluogi Cymru i gynnal ymgysylltiad agos â’r RHN ac i barhau i ddatblygu perthynas â chydweithwyr mewn rhanbarthau sydd wedi eu sefydlu yn y rhwydwaith (fel Norwy a Fflandrys yng Ngwlad Belg), yn ogystal â chyfarfod ag aelodau newydd (fel Utrecht yn yr Iseldiroedd).
Caiff manylion am y cynlluniau ar gyfer ymweliad astudio RHN 2019 eu rhannu unwaith bydd y rhain ar gael y flwyddyn nesaf.