A new guide will help de
Bydd canllaw newydd yn helpu’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau i wella iechyd a llesiant yng Nghymru gyda chamau blaenoriaeth gwerth am arian i atal salwch.
Prosperity for All Report Cover WelshMae’r canllaw, Hybu Ffyniant i Bawb drwy Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant, yn nodi deg cyfle allweddol sy’n cael eu llywio gan dystiolaeth ar gyfer buddsoddi yng Nghymru.
Mae cyfleoedd a nodir yn yr adroddiad yn mynd i’r afael â meysydd o faich a chost uchel yng Nghymru, gan ddarparu enillion economaidd a chymdeithasol, a chynorthwyo twf economaidd cynaliadwy a chynhwysol.
Bydd y canllaw yn helpu’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau i weithredu strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru Ffyniant i Bawb.
Meddai’r Athro Bellis, Cyfarwyddwr y Gyfarwyddiaeth Polisi a Datblygu Rhyngwladol (un o Ganolfannau Cydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru):
“Gwyddon fod atal yn well na thriniaeth. Bydd y canllaw hwn yn helpu i nodi polisïau sy’n sicrhau’r budd mwyaf ar fuddsoddiadau er mwyn gwella iechyd a llesiant pobl yng Nghymru. Bydd hefyd yn cynorthwyo’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau wrth gyflawni strategaeth genedlaethol Ffyniant i Bawb.”
“Mae’r canllaw yn seiliedig ar dystiolaeth o fewn Cymru ac ar draws Ewrop. Rydym yn gobeithio ei fod yn cael ei weld fel dull gwerthfawr ar gyfer y rhai sy’n llunio polisi ac yn gwneud penderfyniadau ar draws llywodraeth genedlaethol a lleol, y gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol, a chyrff cyhoeddus ym mhob sector arall.”
Mae’r canllaw yn amlygu’r gweithredu traws-sector, amlasiantaeth, aml-lefel sydd ei angen i gyflawni datblygu cynaliadwy a ffyniant i bawb yng Nghymru.
Mae’n dilyn cyhoeddi’r adroddiad Gwneud Gwahaniaeth yn 2016, a roddodd dystiolaeth glir i wneuthurwyr polisi ynghylch meysydd blaenoriaeth ar gyfer camau gweithredu ataliol, a ategwyd gan enghreifftiau o’r hyn sy’n gweithio ac sy’n effeithlon (cost-effeithiol).