Mae pobl sy’n ceisio noddfa, gan gynnwys ffoaduriaid a cheiswyr lloches, yn cael trafferth cael mynediad i wasanaethau iechyd a llesiant yng Nghymru, yn ôl adroddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Abertawe.
Nododd pobl sy’n ceisio noddfa eu bod yn teimlo nad oedd eu hanghenion yn cael eu cydnabod, a’u bod wedi profi problemau yn llywio drwy wasanaethau gan gynnwys anawsterau iaith a diffyg cyfieithu ar y pryd priodol.
Dywedodd rhai ymatebwyr fod y straen o fod yn geisydd lloches neu ffoadur wedi cyfrannu at eu hiechyd corfforol a meddyliol gwael.
Mewn arolwg a gynhaliwyd fel rhan o’r astudiaeth, dywedodd bron chwarter (23 y cant) o’r ymatebwyr nad oeddent yn gwybod sut i gysylltu â’r gwasanaeth ambiwlans 999, neu nad oeddent wedi clywed amdano.
Cafodd yr astudiaeth – Profiadau Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid yng Nghymru – ei chynnal er mwyn ymchwilio i brofiad iechyd, llesiant a gofal iechyd ceiswyr lloches a ffoaduriaid yng Nghymru, gan gynnwys barn a phrofiadau derbynwyr a darparwyr gofal iechyd.
Roedd pobl sy’n ceisio noddfa yn rhan o’r tîm ymchwil, ac roedd y Groes Goch Brydeinig, Alltudion ar Waith, Cyngor Ffoaduriaid Cymru a’r Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig wedi cefnogi hefyd.
Dywedodd gweithwyr proffesiynol iechyd o ofal eilaidd a sylfaenol eu bod yn aml yn ei chael yn anodd diwallu anghenion pobl sy’n chwilio am noddfa yn effeithiol. Roedd y materion yn cynnwys diffyg amser ymgynghori, diffyg gwybodaeth benodol yn ymwneud â phobl sy’n ceisio noddfa, a diffyg gwybodaeth am gleifion mewn ieithoedd priodol.
Meddai Gill Richardson, Cynorthwyydd Cynorthwyol Polisi, Ymchwil a Datblygu Rhyngwladol:
“Mae ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn gwneud cyfraniad enfawr i gymdeithas Cymru. Fodd bynnag, gall y profiad o geisio lloches fod yn llawn trawma ac ychwanegu at brofedigaeth, pontio, colled a straen sy’n bodoli eisoes. Mae gennym gyfrifoldeb i sicrhau bod gwasanaethau’n diwallu anghenion pawb yn ein cymunedau, ac nad oes unrhyw un yn cael ei adael ar ôl.
“Mae’r adroddiad hwn yn canfod bod angen i Gymru adeiladu ar gamau presennol er mwyn iddi gyflawni ei uchelgais o fod yn Genedl Noddfa gyntaf y byd, yn dilyn cyhoeddiad diweddar cynllun Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches Llywodraeth Cymru.”
Meddai Dr Ashra Khanom, Ymchwilydd Arweiniol ar gyfer yr astudiaeth hon,
“Er bod arfer da ledled Cymru, dylai profiad unigolion sy’n aml yn agored i niwed o ran y system iechyd a llesiant yng Nghymru gael ei wella er mwyn mynd i’r afael â materion ynghylch mynediad i ofal. Mae’r adroddiad hwn yn gwneud argymhellion allweddol er mwyn helpu gwneuthurwyr polisi allweddol ac ymarferwyr i wella profiad pobl sy’n ceisio noddfa o ran cael mynediad i wasanaethau iechyd a llesiant.”
Mae argymhellion allweddol yn yr adroddiad yn cynnwys yr angen i:
- Wella mynediad i wasanaethau, gyda gwybodaeth ragarweiniol ysgrifenedig ac wedi’i chyfieithu am hawliau a hawliadau ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches
- Gwell hyfforddiant o ran gweithwyr iechyd proffesiynol ar iechyd, materion cymdeithasol a chyfreithiol sy’n gysylltiedig â cheisio noddfa
- Gwaith i fynd i’r afael â phenderfynyddion iechyd gan ddefnyddio dull amlasiantaeth, gyda phartneriaid gan gynnwys y sector gwirfoddol i sicrhau’r cymorth mwyaf posibl i bobl sy’n ceisio noddfa, gan gynnwys ceiswyr lloches amddifad ac a wrthodwyd
Meddai Cathrin Manning, Swyddog Polisi a Materion Cyhoeddus ar gyfer y Groes Goch Brydeinig:
“Dengys y gwaith ymchwil hwn er bod llawer o waith cadarnhaol yn cael ei wneud yng Nghymru i wneud gwasanaethau iechyd yn fwy hygyrch i ffoaduriaid a cheiswyr lloches, mae meysydd i’w gwella o hyd.
“Mae angen i’r sector gwirfoddol a phartneriaid iechyd barhau i weithio gyda’i gilydd, a chyda phobl sy’n ceisio lloches eu hunain, er mwyn cynyddu’r defnydd a’r ddealltwriaeth o gyfleusterau a gwasanaethau’r GIG fel y gall mwy o bobl gael mynediad i’r cymorth sydd ei angen arnynt. Rydym wedi gwella’r cyfle i weithio gyda’n partneriaid er mwyn paratoi’r adroddiad hwn.”
Roedd yr ymchwil yn cynnwys adolygiad o dystiolaeth bresennol, ynghyd â gweithgarwch yr arolwg a’r grŵp ffocws, a chyfweliadau â gweithwyr proffesiynol gofal iechyd i sefydlu beth helpodd neu a lesteiriodd y mynediad i ofal iechyd, a phrofiadau’r rhai sy’n ceisio noddfa.
Caiff Aelodau’r Cynulliad gyfle i drafod yr adroddiad yn Noddfa eleni yn y digwyddiad yn y Senedd ddydd Mercher 3 Ebrill. Yn bresennol yn y digwyddiad fydd y Prif Weinidog Mark Drakeford AC, y Dirprwy Weinidog a Phrif Chwip Jane Hutt AC, a’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol Julie James AC.
Bydd yr adroddiad yn rhan o sgwrs ehangach ynghylch sut y gall gwasanaethau a chymunedau weithio gyda’i gilydd i wneud Cymru yn Genedl o Noddfa.
Crynodeb Gweithredol o Astudiaeth HEAR
Adroddiad Technegol astudiaeth HEAR (Saesneg yn unig)