Yng Nghynhadledd Iechyd Cyhoeddus Cymru daw cannoedd o bobl o gefndiroedd amrywiol ynghyd i gydweithio ac i rannu syniadau i adeiladu Cymru iachach. Cynhelir Cynhadledd Iechyd Cyhoeddus eleni ar ddydd Iau 17 a dydd Gwener 18 Hydref yn y Ganolfan Gynadledda Ryngwladol, Casnewydd. Bydd cofrestru’n agor yn fuan felly gwnewch nodyn o’r dyddiadau nawr. Rydym yn galw am grynodebau a fydd yn cyfrannu at y rhaglen. Mae gennych tan 18 Gorffennaf 2019 i gyflwyno crynodeb.