Mae Dr Gill Richardson yn arwain y pecyn gwaith ar Fudo ac Iechyd ar gyfer Cymru yn Gweithredu ar y Cyd dros Degwch Iechyd yn Ewrop (JAHEE). Nod JAHEE yw:

  • Cyflwyno fframwaith polisi gyda dewislen o weithredoedd ac argymhellion ar gyfer ymgymeriad a gweithredu cenedlaethol, rhanbarthol a lleol;
  • Datblygu polisïau gwell a gwella monitro, llywodraethu, gweithredu a gwerthuso;
  • Gweithredu arfer da a hwyluso cyfnewid a dysgu; a
  • Nodi ffactorau llwyddiant, rhwystrau a heriau, a sut i’w goresgyn.

Mae tair gwlad ar ddeg yn cymryd rhan yn y pecyn gwaith ar Fudo ac Iechyd, gyda Sefydliad Iechyd y Cyhoedd Norwy fel cydlynwyr y pecyn gwaith.

Cam mawr cyntaf y gwaith hwn oedd cwblhau Asesiad Gwlad o’r sefyllfa bresennol o ran polisi, ymarfer a data’n ymwneud ag iechyd mudwyr.

Gweithiodd Rebecca Fogarty (nee Scott), Rheolwr Rhaglen JAHEE, gyda Gill i gwblhau’r asesiad gwlad hwn.  Bydd y cyflwyniad bellach yn llywio’r dewis o weithgareddau dros y 18 mis nesaf er mwyn mynd i’r afael â rhai o’r materion a nodwyd. Gofynnwyd am wybodaeth gan UE ar ystod o destunau, yn cynnwys argaeledd data ac ymchwil yn ymwneud ag iechyd, polisïau a llywodraethu mudwyr, gweithredu rhyng-sectoraidd ar benderfynyddion cymdeithasol iechyd, mynediad mudwyr i wasanaethau iechyd, ymatebolrwydd gwasanaethau iechyd a grwpiau agored i niwed.

Casglwyd gwybodaeth o ffynonellau lluosog, yn cynnwys y Swyddfa Ystadegau Gwladol, y Swyddfa Gartref, Partneriaeth Mudo Strategol Cymru a Llywodraeth Cymru, yn ogystal â Thîm Dadansoddi Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru ei hun.  Mae’r prif ganfyddiadau yn cynnwys diffyg amlygrwydd mudwyr mewn polisïau’n ymwneud ag iechyd ac mewn setiau data hygyrch, angen i ganolbwyntio ar wella llythrennedd iechyd mudwyr a phwysigrwydd mudo i gynnal lefelau poblogaeth Cymru.

Canmolwyd Rebecca a Gill gan yr Arweinwyr Rhaglen Norwyaidd am eu cyflwyniad.