Mae menter Adroddiad Statws Tegwch Iechyd Ewropeaidd (HESRi) WHO yn cael ei ddatblygu fel ffordd o hybu a chefnogi gweithredu ar bolisi ac ymrwymiad i degwch iechyd a llesiant yn y Rhanbarth Ewropeaidd. Yn benodol, nod HESRi yw newid y ffocws gwleidyddol a pholisi o ddisgrifio’r broblem i gyfleu cynnydd a galluogi gweithredu i wella tegwch iechyd. Mae mwy o wybodaeth, adroddiadau ac offer ar gael yma:
http://www.euro.who.int/en/health-topics/health-determinants/social-determinants/health-equity-status-report-initiative (saesneg yn unig)
Gallwch weld yr Adroddiad Llawn yma: http://www.euro.who.int/en/HealthEquityStatusReport2019 (saesneg yn unig)
Mae Crynodeb Gweithredol ar gael yma: http://www.euro.who.int/en/health-topics/health-determinants/social-determinants/publications/2019/healthy,-prosperous-lives-for-all-the-european-health-equity-status-report.-executive-summary-2019 (saesneg yn unig)
Mae datganiad i’r wasg ar gyfer yr achlysur lansio ar gael yma (saesneg yn unig)
Noder: mae dogfennau cysylltiedig ar gael yn Saesneg yn unig.
Fel y gwyddoch, mae Canolfan Gydweithredu WHO yn Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi bod yn gweithio’n agos gyda Swyddfa Ewropeaidd WHO dros Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Datblygiad (Swyddfa Fenis) a Llywodraeth Cymru yn y maes yma. Rhagwelir mai Cymru, ynghyd â’r Eidal, fyddai’r Gwledydd Dylanwadol cyntaf i roi’r adroddiad ar brawf a’i ddefnyddio i leihau annhegwch iechyd a helpu i gael iechyd a llesiant gwell a ffyniant i bawb. Byddai hyn yn cefnogi datblygu cynaliadwy a thwf economaidd cynhwysol, yn ogystal â ‘Chreu Cymru Iachach’’ a ‘Chymru Fwy Cyfartal’.