Mae Cronfa Wybodaeth y BMA bellach yn agored ar gyfer ceisiadau.  Mae’r gronfa’n darparu gwybodaeth iechyd a deunyddiau addysgol ar gyfer sefydliadau sydd yn canolbwyntio ar iechyd mewn gwledydd lle mae prinder adnoddau. Mae’r BMA yn gweithio mewn partneriaeth â Health Books International i ddarparu adnoddau sydd wedi eu teilwra i anghenion addysg a hyfforddiant penodol gweithwyr iechyd sy’n gweithredu mewn lleoliadau lle mae prinder adnoddau. Edrychwch ar dudalen y BMA ar y we am fwy o wybodaeth am y mentrau yr ydym wedi eu cefnogi yn y gorffennol a gwybodaeth ynghylch sut i wneud cais.

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 8 Tachwedd 2019, ond dim ond 100 o geisiadau a dderbynnir, felly anogir gwneud cais yn gynnar!

https://www.bma.org.uk/collective-voice/influence/international/global-health/information-fund (saesneg yn unig)