Canllawiau polisi ar gyfer cymdeithasau iachach, tecach a mwy cynaliadwy yn amgylcheddol: amser i newid i raddfa uwch.

Brwsel, 4 Tachwedd 2019 — Mae’r problemau’n glir: mae clefydau cronig ar gynnydd, mae’r amgylchedd a’r hinsawdd o dan fygythiad, ac mae anghydraddoldebau ar gynnydd, gyda phoblogaethau o dan anfantais yn debygol o ddioddef fwyaf o salwch ac effeithiau negyddol newid hinsawdd.

Ond mae gennym atebion.  Gall llywodraethu integredig helpu i sicrhau bod materion amgylcheddol, iechyd a thegwch rhyng-gysylltiedig yn cael eu trin yn gydlynol. Mae ymagweddau cyfranogol yn galluogi dinasyddion i ymgysylltu â’r broses o lunio polisïau sy’n effeithio ar eu bywydau. Mae galluogi ac annog pobl i newid ymddygiad yn hanfodol ond yn agwedd ar symud tuag at gynaliadwyedd gwell sy’n cael ei hanwybyddu’n aml. Mae sicrhau nad yw gweithredoedd polisi’n cyfrannu at anghydraddoldebau cynyddol nid yn unig yn gyfiawn, ond mae hefyd yn dda i gymdeithas yn gyffredinol.

Mae gwneuthurwyr polisïau ar lefelau Ewropeaidd, cenedlaethol, rhanbarthol a lleol yn hanfodol, a gallant gymryd camau cadarn i sefydlu’r atebion hyn.

Mae heddiw yn nodi cyhoeddi cyfres o friffiau polisi sydd yn rhoi arweiniad ar y ffordd y gall gwneuthurwyr polisïau hybu cynaliadwyedd amgylcheddol, iechyd a thegwch iechyd, gan feithrin “enillion triphlyg”. Mae’r briffiau’n canolbwyntio ar lywodraethu integredig, newid ymddygiad a thegwch iechyd, ac yn cynnwys meysydd byw, symud a defnyddio. Maent yn cynnwys argymhellion ar gyfer gweithredu ac yn nodi enghreifftiau cadarn o’r hyn y gellir ac sydd wedi cael ei gyflawni mewn cyd-destunau gwahanol ar draws Ewrop, gan amlygu posibiliadau ar gyfer tyfu. Mae’r briffiau wedi cael eu datblygu gan brosiect ymchwil INHERIT  (2016-2019) (Saesneg yn unig) Horizon 2020.

Ym mis Rhagfyr, bydd INHERIT yn ategu’r briffiau polisi gyda phecyn cymorth polisi ehangach, fydd yn ychwanegu at ac yn datblygu’r elfennau hyn ymhellach, yn ogystal â meysydd ar gyfer gwaith pellach yn cynnwys cydweithredu â’r sector preifat, ymgysylltu ystyrlon â’r cyhoedd ac addysg a hyfforddiant ar gyfer yr enillion triphlyg, gan sicrhau dyfodol mwy cynaliadwy yn gymdeithasol, yn amgylcheddol ac yn economaidd, yn erbyn cefndir y Nodau Datblygu Cynaliadwy.

Am fwy o wybodaeth am INHERIT, yn cynnwys y gynhadledd derfynol, ewch i’r wefan (Saesneg yn unig) neu dilynwch nhw ar Twitter.