Mae’r tîm wedi creu cyfres o animeiddiadau sy’n amlygu rhaglen waith WHESRi, sy’n adeiladu ar y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Swyddfa Ranbarthol Ewrop Sefydliad Iechyd y Byd.

Mae’r animeiddiad cyntaf yn y gyfres hon yn rhoi trosolwg o’r fenter a’r defnydd o Fframwaith Sefydliad Iechyd y Byd arloesol, drwy enghreifftiau o annhegwch iechyd yng Nghymru, wedi’u halinio a’u mapio i’r pum amod hanfodol, ac yn amlygu Cymru fel un o’r safleoedd arloesi byw cyntaf ar gyfer tegwch iechyd a buddsoddiad ar gyfer iechyd a llesiant yn Rhanbarth Ewropeaidd Sefydliad Iechyd y Byd.

Mae’r ail yn dangos prif ganfyddiadau’r adroddiad cyntaf, ‘Rhoi tegwch iechyd wrth wraidd yr ymateb cynaliadwy i COVID-19 ac adfer ohono: Adeiladu bywydau llewyrchus i bawb yng Nghymru’ ac yn canolbwyntio ar effeithiau ehangach, llai gweladwy’r pandemig ar amrywiaeth o faterion gan gynnwys:

  1. Tlodi, amddifadedd ac allgáu cymdeithasol
  2. Diweithdra, addysg a’r gagendor digidol
  3. Amodau tai a gwaith niweidiol, a thrais a throseddu

Mae hefyd yn cynnwys yr effaith anghymesur y mae coronafeirws wedi’i chael, ac yn ei chael, ar grwpiau penodol fel plant a phobl ifanc, menywod, gweithwyr allweddol a lleiafrifoedd ethnig.