Yn dilyn llwyddiant lansio menter Adroddiad Statws Tegwch Iechyd Cymru (WHESRi) a chyhoeddi’r adroddiad cyntaf o’r enw Gosod tegwch iechyd wrth wraidd ymateb ac adferiad cynaliadwy COVID-19: Adeiladu bywydau llewyrchus i bawb yng Nghymru, mae Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi eu papur diweddaraf, wedi ei ddatblygu mewn cydweithrediad agos â Llywodraeth Cymru a Swyddfa Ewropeaidd WHO ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Datblygiad (Fenis, yr Eidal).

Mae’r papur, o’r enw Dylanwadu ar y Bwlch Iechyd yng Nghymru: Papur trafod dadansoddi dadgyfansoddiad yn rhoi cipolwg ar anghydraddoldebau iechyd yn y blynyddoedd yn arwain at bandemig Coronafeirws (COVID-19), gan gymhwyso methodoleg arloesol, ‘dadansoddi dadgyfansoddiad’. Mae’n ceisio meintioli’r bwlch iechyd yng Nghymru, a rhoi dealltwriaeth well o’i brif ysgogwyr ar draws y pum amod hanfodol (penderfynyddion ehangach) ar gyfer bywydau ffyniannus iach i bawb, gan ddefnyddio fframwaith newydd WHO (isod).

Mae’r dadansoddiad yn defnyddio mesurau unigol iechyd hunangofnodedig, yn cymharu rhwng: 1) Y rheiny sydd yn gallu gwneud arbediad o £10/mis o leiaf a’r rheiny sydd yn methu gwneud hynny; 2) Y rheiny sydd yn nodi amddifadedd materion a’r rheiny nad ydynt yn gwneud hynny; a 3) Y rheiny sydd yn nodi salwch, anabledd neu eiddilwch cyfyngus hirdymor a’r rheiny nad ydynt yn gwneud hynny.

Mae’r dadansoddi dadgyfansoddiad wedi creu mewnwelediad i ysgogwyr annhegwch iechyd, gan nodi’r rheiny sy’n cyfrannu fwyaf, sef ‘Cyfalaf Cymdeithasol a Dynol’ a ‘Diogelwch Incwm ac Amddiffyniad Cymdeithasol’; tra bod ‘Gwasanaethau Iechyd’ wedi rhoi cyfrif am y lleiaf. Fodd bynnag, mae gwahaniaethau systematig yn gallu esbonio llai na hanner (<50%) y bylchau iechyd ar gyfer y rhan fwyaf o’r canlyniadau iechyd, yn seiliedig ar fodelau ystadegol.

Mae’r papur yn amlygu’r angen am fasged o benderfyniadau polisi a buddsoddi, gan flaenoriaethu prif ysgogwyr annhegwch iechyd, mewn cytundeb ar draws sectorau. Mae archwilio ac ymgysylltu pellach gydag arbenigwyr, rhanddeiliaid, grwpiau a chymunedau perthnasol yn hanfodol i wella dealltwriaeth o’r bwlch tegwch iechyd a’i ysgogwyr.

Yn ogystal, mae gan yr argyfwng costau byw cynyddol y potensial i gynyddu annhegwch iechyd ymhellach, gan gael effaith uniongyrchol ar y ddau amod hanfodol, sy’n ysgogi’r rhan fwyaf (sydd wedi ei esbonio) o’r bwlch tegwch iechyd yng Nghymru.

Mae dangosfwrdd rhyngweithiol i ddangos dadansoddiad dadelfennu o’r bwlch iechyd yng Nghymru ar gael yma.