Gweminar Ford Gron WHOAll RHN wedi’i gyd-drefnu gyda Chymru
Cynhaliwyd gweminar Rhwydwaith Pob-Ranbarth (RHN) ar gyfer Iechyd Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) ar 21 Medi 2022, wedi’i hwyluso gan Gymru (Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant yn Iechyd Cyhoeddus Cymru). Gyda 55 o gyfranogwyr o bob rhan o’r rhwydwaith yn bresennol, roedd y sesiwn yn canolbwyntio ar ‘Yr Argyfwng Costau Byw: Goblygiadau i Iechyd y Cyhoedd a chanfod Atebion’. Roedd y gweminar:
- Yn darparu trosolwg ac archwiliad o ddimensiynau’r mater, sut maent yn effeithio ar iechyd a beth i’w wneud yn ei gylch
- Yn archwilio profiadau rhanbarthol
Bydd y gwersi a ddysgwyd o’r cyfarfod hwn yn bwydo i mewn i 27ain cyfarfod blynyddol y Rhwydwaith Rhanbarthau dros Iechyd (Brwsel 5-7 Rhagfyr 2022), a “WHO/Fforwm Datrysiadau Ewrop ar Iechyd yn yr Economi Llesiant” (Copenhagen 1–2 Mawrth 2023) a deialogau, gweminarau a byrddau crwn polisi technegol a lefel uchel pellach.
Mae’r adroddiad yn rhoi trosolwg ac archwiliad o’r canlynol:
- Dimensiynau’r mater gyda phedwar maes hanfodol sef tai, cyflogaeth, bwyd a thanwydd
- Sut maent yn effeithio ar grwpiau poblogaeth yn anghymesur, goblygiadau iechyd a lles ac iechyd meddwl
- Beth i’w wneud am yr argyfwng costau byw trwy ddefnyddio ymatebion polisi a buddsoddiadau i wella systemau iechyd a gofal cymdeithasol
- Profiadau rhanbarthol ar draws Gogledd a De Ewrop
Gellir gweld yr adroddiad yma
Powerpoint 1 (saesneg yn unig)
Powerpoint2 (saesneg yn unig)
Powerpoint 3 (saesneg yn unig)
Powerpoint 4 (saesneg yn unig)
Cyflwyniad