Gweminar Ford Gron WHOAll RHN wedi’i gyd-drefnu gyda Chymru

Cynhaliwyd gweminar Rhwydwaith Pob-Ranbarth (RHN) ar gyfer Iechyd Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) ar 21 Medi 2022, wedi’i hwyluso gan Gymru (Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant yn Iechyd Cyhoeddus Cymru). Gyda 55 o gyfranogwyr o bob rhan o’r rhwydwaith yn bresennol, roedd y sesiwn yn canolbwyntio ar ‘Yr Argyfwng Costau Byw: Goblygiadau i Iechyd y Cyhoedd a chanfod Atebion’. Roedd y gweminar:

  • Yn darparu trosolwg ac archwiliad o ddimensiynau’r mater, sut maent yn effeithio ar iechyd a beth i’w wneud yn ei gylch
  • Yn archwilio profiadau rhanbarthol

Bydd y gwersi a ddysgwyd o’r cyfarfod hwn yn bwydo i mewn i 27ain cyfarfod blynyddol y Rhwydwaith Rhanbarthau dros Iechyd (Brwsel 5-7 Rhagfyr 2022), a “WHO/Fforwm Datrysiadau Ewrop ar Iechyd yn yr Economi Llesiant” (Copenhagen 1–2 Mawrth 2023) a deialogau, gweminarau a byrddau crwn polisi technegol a lefel uchel pellach.

Mae’r adroddiad yn rhoi trosolwg ac archwiliad o’r canlynol:

  1. Dimensiynau’r mater gyda phedwar maes hanfodol sef tai, cyflogaeth, bwyd a thanwydd
  2. Sut maent yn effeithio ar grwpiau poblogaeth yn anghymesur, goblygiadau iechyd a lles ac iechyd meddwl
  3. Beth i’w wneud am yr argyfwng costau byw trwy ddefnyddio ymatebion polisi a buddsoddiadau i wella systemau iechyd a gofal cymdeithasol
  4. Profiadau rhanbarthol ar draws Gogledd a De Ewrop

Gellir gweld yr adroddiad yma

Powerpoint 1 (saesneg yn unig)

Powerpoint2 (saesneg yn unig)

Powerpoint 3 (saesneg yn unig)

Powerpoint 4 (saesneg yn unig)

Cyflwyniad

Agor a gosod yr olygfa: Dr Bettina Menne, Cydlynydd RHN a SCI, Swyddfa Ewropeaidd Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer Buddsoddi mewn Iechyd a Datblygiad (5 mun)Cyflwyno cwmpas y gweminar.
 
Cyflwyno siaradwyr yn fyr, a nodi bod sesiwn holi-ac-ateb ar y diwedd, ac i godi cwestiynau drwy’r sgwrs os gwelwch yn dda.
Economeg:  Yr Athro Cathal O’Donoghue, Cadeirydd Sefydledig, Polisi Cymdeithasol a Chyhoeddus, Prifysgol Genedlaethol Iwerddon, Galway (10 munud)Yr Athro Cathal O’Donoghue yn rhoi trosolwg o’r dystiolaeth ddiweddaraf ar y COLC o safbwynt economaidd.
Trosolwg o’r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i liniaru effaith y COLC: David Willis, Pennaeth Trechu Tlodi, Llywodraeth Cymru. (8 munud)David Wills yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa a’r atebion sy’n cael eu defnyddio yng Nghymru i wynebu’r COLC.
Yr Adroddiadau Sganio a Dysgu Gorwelion Rhyngwladol ar COLC:   Dr Emily Clark, Cofrestrydd Arbenigedd yn Iechyd y Cyhoedd, Iechyd Cyhoeddus Cymru (8 munud)Dr Clark yn rhoi trosolwg o’r adroddiad sganio’r gorwel a’r canfyddiadau rhyngwladol.
Iechyd meddwl ar adegau o argyfwng yn rhanbarthau’r Eidal: Maria Luisa Scattoni, Ymchwilydd, Istituto Superiore della Sanità (ISS). (8 munud)Luisa Scattoni yn rhoi trosolwg o’r rhyngweithio rhwng iechyd meddwl a chyd-destunau argyfwng, gyda ffocws ar ieuenctid.
Yr economi llesiant: Chris Brown, Pennaeth Swyddfa Ewropeaidd WHO ar gyfer Buddsoddi mewn Iechyd a Datblygiad. (5 munud)Bydd Chris Brown yn disgrifio’r gwaith a wnaed i gefnogi’r economi llesiant fel ffordd bosibl ymlaen i wella gwytnwch a mynd i’r afael â’r argyfwng presennol.