Mae adroddiad Yr Argyfwng Costau Byw: Goblygiadau i Iechyd y Cyhoedd a Nodi Atebion yn crynhoi’r hyn a ddysgwyd o weminar y Rhwydwaith Rhanbarthau dros Iechyd (RHN) Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) wedi ei hwyluso gan Ganolfan Gydweithredu WHO yn Iechyd Cyhoeddus Cymru ar 21 Medi 2022. Mae’r adroddiad yn rhoi trosolwg ac archwiliad o’r canlynol:
- Dimensiynau’r mater gyda phedwar maes hanfodol sef tai, cyflogaeth, bwyd a thanwydd
- Sut maent yn effeithio ar grwpiau poblogaeth yn anghymesur, goblygiadau iechyd a lles ac iechyd meddwl
- Beth i’w wneud am yr argyfwng costau byw trwy ddefnyddio ymatebion polisi a buddsoddiadau i wella systemau iechyd a gofal cymdeithasol
- Profiadau rhanbarthol ar draws Gogledd a De Ewrop
Gellir gweld yr adroddiad yma, ac mae recordiad o’r weminar ar gael yma