Mae’r briff hwn yn cyflwyno profiadau 15 o unigolion sy’n byw mewn aelwydydd incwm isel. Mae’n tynnu ar fonitro tymheredd dan do gwrthrychol a chyfweliadau sy’n archwilio ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o ganllawiau tymheredd dan do iach ac effeithiau tymheredd y cartref ar iechyd a llesiant.
Awduron: Hayley Janssen, Daniella Griffiths+ 1 more
Mae’r adroddiad hwn, Mewnwelediadau Iechyd Rhyngwladol, yn archwilio tystiolaeth fyd-eang ynghylch atal dementia a phwysigrwydd cefnogi iechyd yr ymennydd drwy gydol bywyd unigolyn.
Mae’r adroddiad yn adolygu’r arferion gorau yn rhyngwladol ac yn tynnu sylw at ddulliau llwyddiannus mewn gwledydd sy’n cynnwys y Ffindir, Japan, De Corea, Uruguay, a’r Deyrnas Unedig.
Negeseuon allweddol:
Nid yw dementia yn rhan anochel o heneiddio. Gallai mynd i’r afael â’r ffactorau risg y gellir eu haddasu drwy gydol bywyd unigolyn atal hyd at 45% o’r achosion. Mae gwaith atal effeithiol yn gofyn am gamau gweithredu integredig ar dair lefel:
1. Mae ymyriadau mewn perthynas â newid ymddygiad ar un elfen yn parhau’n seiliau hanfodol, ac yn targedu ffactorau risg unigol fel anweithgarwch corfforol, ysmygu, ynysigrwydd cymdeithasol, camddefnyddio alcohol a cholli clyw neu olwg heb ei drin.
2. Mae ymyriadau mewn perthynas â nifer o elfennau sy’n targedu ffactorau risg lluosog, wedi’u clystyru, yn cynrychioli’r strategaeth fwyaf addawol.
3. Mae mesurau strwythurol ar lefel y boblogaeth fel polisïau ariannol, deddfwriaeth, cyfyngiadau marchnata, ac addasiadau amgylcheddol yn hanfodol i ategu dulliau sy’n seiliedig ar ffordd o fyw.
Cydnabyddir fwyfwy fod unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol yn heriau iechyd y cyhoedd. Nod yr adroddiad hwn yw cyflwyno unigrwydd, ynysigrwydd cymdeithasol a chysylltiad cymdeithasol yng Nghymru o safbwynt iechyd cyhoeddus. Mae wedi’i fwriadu ar gyfer gweithwyr proffesiynol, y rhai sy’n llunio polisïau ac unigolion eraill sy’n gweithio’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol ym maes cysylltiad cymdeithasol ac mae’n cynnwys data a thystiolaeth ar: gyffredinrwydd unigrwydd, ynysigrwydd cymdeithasol a chysylltiad cymdeithasol yng Nghymru a’r grwpiau poblogaeth yr effeithir arnynt fwyaf; ffactorau sy’n cynyddu’r risg o unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol; effeithiau ar iechyd a llesiant; tystiolaeth ar atebion; enghreifftiau o arfer da ledled Cymru; a meysydd allweddol i weithredu arnynt yn y dyfodol.
Mae Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus yn banel cynrychioliadol genedlaethol o drigolion Cymru a sefydlwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i alluogi ymgysylltu rheolaidd â’r cyhoedd i lywio polisi ac arferion iechyd y cyhoedd. Mae’r panel wedi’i ddylunio i fod yn gynrychioliadol yn fras o boblogaeth Cymru yn ôl oedran, rhyw, amddifadedd, ethnigrwydd a bwrdd iechyd. Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau arolwg mis Hydref 2025 sy’n ymdrin â: Ffynonellau Gwybodaeth Iechyd, Polisi Iechyd, Iechyd a Llesiant ar ôl Beichiogrwydd, Rhagfarn ar sail Oedran ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae Cylchlythyr Iechyd Rhyngwladol y Ganolfan Ryngwladol Cydlynu Iechyd (CRCI) yn hyrwyddo ac yn rhannu newyddion, digwyddiadau a mentrau rhyngwladol gyda phartneriaid ledled Cymru a thu hwnt.
Cafodd y cylchlythyr ei dreialu ym mis Mai 2023, ac fe’i cyhoeddir yn chwarterol ers hynny.
Gweler y rhifyn diweddaraf yma.
Awduron: Jo Harrington, Laura Holt+ 5 more
, Karen Hughes, Sara Wood, Joanne C. Hopkins, Keira Charteris, Liz Green
Mae’r adroddiad hwn yn archwilio sut y gall gwahanol gydrannau gwasanaethau gofal brys helpu i leihau’r pwysau ar adrannau brys a chefnogi annibyniaeth cleifion. Gan alw ar yr ymchwil ddiweddaraf drwy adolygiad gwib systematig a mewnwelediadau rhyngwladol, mae’n tynnu sylw at arferion gorau o bob rhan o’r DU ac yn fyd-eang er mwyn llywio dyluniad gwasanaethau gofal brys yng Nghymru. Mae’r adolygiad yn cynnwys ystod o elfennau gwasanaeth gofal brys, gan gynnwys:
• Strategaethau newid tasgau i optimeiddio capasiti ac effeithlonrwydd y gweithlu
• Gwell mynediad at wasanaethau diagnostig, fel radioleg
• Offer clyfar fel brysbennu digidol a systemau cynorthwyo penderfyniadau i staff
• Ehangu canolfannau gofal/triniaeth frys ar gyfer gofal amserol a phriodol
• Gofal brys rhithwir, gan gynnwys ymgynghoriadau ffôn a fideo am gyngor brys
Ynglŷn â’r adolygiad:
Mae’r canfyddiadau’n awgrymu y gall gwasanaethau gofal brys a ddylunnir yn dda ddarparu gofal mwy diogel, cyflym ac effeithiol. Er bod angen rhagor o ymchwil, mae’r dystiolaeth yn tynnu sylw at gyfle addawol i leddfu’r pwysau ar ysbytai a sicrhau bod cleifion yn derbyn y gofal cywir, yn y lle cywir, ar yr adeg gywir.
Gwaith ar y cyd yw hwn rhwng y Gwasanaeth Tystiolaeth (Cyfarwyddiaeth Ymchwil, Data a Digidol) a’r tîm Mewnwelediadau Iechyd Rhyngwladol (Cyfarwyddiaeth Polisi ac Iechyd Rhyngwladol, Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant).
Awduron: Anamica Patel, Keira Charteris+ 8 more
, Kate Shiells, Laura Johnson, Helen Morgan, Hannah Shaw, Daniela Stewart, Zuwaira Hashim, Kirsty Little, Mariana Dyakova
Mae Cylchlythyr Iechyd Rhyngwladol y Ganolfan Ryngwladol Cydlynu Iechyd (CRCI) yn hyrwyddo ac yn rhannu newyddion, digwyddiadau a mentrau rhyngwladol gyda phartneriaid ledled Cymru a thu hwnt.
Cafodd y cylchlythyr ei dreialu ym mis Mai 2023, ac fe’i cyhoeddir yn chwarterol ers hynny.
Mae gan Gymru gyd-destun deddfwriaethol a pholisi galluogol. Dangosir hyn gan nod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol o greu ‘Cymru sy’n gyfrifol yn fyd-eang’.
Defnyddiodd y papur trafod hwn adolygiad cwmpasu i archwilio sut mae Cymru a chymunedau rhyngwladol yn cael budd o bartneriaethau cydweithredol. Yr amcanion oedd nodi gwybodaeth bresennol, gwerthuso’r manteision a phennu arferion gorau.
Mae Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus yn banel cynrychioliadol cenedlaethol o drigolion Cymru. Fe’i sefydlwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i alluogi ymgysylltiad rheolaidd â’r cyhoedd er mwyn llywio polisïau ac ymarfer iechyd y cyhoedd. Cynlluniwyd y panel i gynrychioli poblogaeth Cymru yn gyffredinol yn ôl oedran, rhyw, amddifadedd, ethnigrwydd a bwrdd iechyd. Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau o arolwg Mehefin 2025 sy’n cwmpasu: Diabetes math 2, defnydd menig mewn lleoliadau gofal iechyd, anymataliaeth, iechyd deintyddol, newid hinsawdd a polisi iechyd cyhoeddus.
Archwiliodd yr astudiaeth hon y perthnasoedd rhwng cam-drin corfforol a geiriol yn ystod plentyndod a llesiant meddyliol oedolion. Defnyddiodd yr astudiaeth, a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn BMJ Open, ddata o arolygon a gynhaliwyd yng Nghymru a Lloegr rhwng 2012 a 2024. Canfu fod cam-drin geiriol yn ystod plentyndod yn gysylltiedig â chynnydd tebyg mewn risg o fod â llesiant meddyliol isel â cham-drin corfforol yn ystod plentyndod. Mesurodd yr astudiaeth hefyd dueddiadau mewn cam-drin corfforol a geiriol a hunan-adroddwyd ar draws y carfanau geni.
Awduron: Mark Bellis, Karen Hughes+ 4 more
, Kat Ford, Zara Quigg, Nadia Butler, Charley Wilson
Mae Cylchlythyr Iechyd Rhyngwladol y Ganolfan Ryngwladol Cydlynu Iechyd (CRCI) yn hyrwyddo ac yn rhannu newyddion, digwyddiadau a mentrau rhyngwladol gyda phartneriaid ledled Cymru a thu hwnt.
Cafodd y cylchlythyr ei dreialu ym mis Mai 2023, ac fe’i cyhoeddir yn chwarterol ers hynny.
Gweler y rhifyn diweddaraf yma.
Awduron: Laura Holt, Jo Harrington+ 4 more
, Daniela Stewart, Zuwaira Hashim, Dr Stanley Upkai, Malek Mhd Al Dali
Mae’r E-Ganllaw Gwerth Cymdeithasol ar gyfer Iechyd Cyhoeddus yn adnodd cam wrth gam sy’n esbonio sut i ddefnyddio dulliau sydd â ffocws cymdeithasol i wneud penderfyniadau a phennu blaenoriaethu ariannol.
Ei nod yw cefnogi rhanddeiliaid gan gynnwys ymarferwyr, ymchwilwyr a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau i ddeall a chofnodi gwerth cymdeithasol yr ymyriadau a’r gwasanaethau y maent yn eu dylunio a’u darparu.
Mae’r E-Ganllaw yn cyflwyno dulliau ac adnoddau i fabwysiadu ymagwedd gwerth cymdeithasol gan gynnwys dulliau fel Enillion Cymdeithasol o Fuddsoddiad a Dadansoddiad Costau Buddion Cymdeithasol, wedi’u teilwra’n benodol i’r cyd-destun iechyd cyhoeddus.
Awduron: Andrew Cotter-Roberts, Anna Stielke+ 2 more
Mae’r adroddiad hwn yn disgrifio gweithgareddau’r Ganolfan Ryngwladol Cydlynu Iechyd (CRCI), a’r gweithgarwch iechyd rhyngwladol ehangach a’r gwaith partneriaeth a gynhaliwyd yn GIG Cymru rhwng 2022 a 2024. Mae’n yn amlinellu cynnydd y CRCI o ran llywio a galluogi gweithredu’r Siarter ar gyfer Partneriaethau Iechyd Rhyngwladol yng Nghymru (y Siarter) ar draws y GIG a dangos yr offer a ddefnyddir i alluogi dysgu ar y cyd, hwyluso synergeddau ar draws y GIG a thraws-sector, a sicrhau’r buddion mwyaf posibl i iechyd a llesiant pobl Cymru a thu hwnt.
Mae Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus yn banel cynrychioliadol cenedlaethol o drigolion Cymru. Fe’i sefydlwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i alluogi ymgysylltiad rheolaidd â’r cyhoedd er mwyn llywio polisïau ac ymarfer iechyd y cyhoedd. Cynlluniwyd y panel i gynrychioli poblogaeth Cymru yn gyffredinol yn ôl oedran, rhyw, amddifadedd, ethnigrwydd a bwrdd iechyd. Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau o arolwg Chwefror 2025 sy’n cwmpasu: Gofal sylfaenol ac anghydraddoldebau iechyd; Darparu gwasanaethau gofal sylfaenol; Cysylltedd cymdeithasol; Llesiant personol; Sicrwydd ariannol; Isafbris am uned o alcohol; Sgrinio’r fron a deallusrwydd artiffisial.
Mae’r adolygiad hwn yn mapio trosolwg o gymhwyso Elw Cymdeithasol ar Fuddsoddiad (SROI) a Dadansoddiad Cost a Budd (SCBA) mewn llenyddiaeth bresennol i nodi gwerth cymdeithasol ymyriadau iechyd y cyhoedd yn ystod cyfnodau unigol cwrs bywyd.
Amlygir pwysigrwydd cael gwerth cymdeithasol ac mae’r canlyniadau’n dangos gwerth cadarnhaol buddsoddi mewn ymyriadau iechyd y cyhoedd. Gellir defnyddio’r dystiolaeth hon fel man cychwyn gan weithwyr iechyd cyhoeddus proffesiynol a sefydliadau sy’n edrych y tu hwnt i fesurau economaidd traddodiadol, a thuag at gipio gwerth cymdeithasol wrth fuddsoddi mewn ymyriadau ar draws cwrs bywyd. Mae briff tystiolaeth wedi’i gynhyrchu sy’n amlinellu canfyddiadau allweddol yr adolygiad cwmpasu ac yn rhoi enghreifftiau unigol o werth cymdeithasol ymyriadau ar gamau unigol o gwrs bywyd a nodwyd yn yr adolygiad cwmpasu.
Awduron: Kathryn Ashton, Peter Schröder-Bäck+ 4 more
, Timo Clemens, Mariana Dyakova, Anna Stielke, Mark Bellis