Mae’r Ganolfan Cydlynu Iechyd Ryngwladol (IHCC) yn rhaglen waith unigryw Cymru gyfan, sy’n dwyn ynghyd yr holl Fyrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau GIG. Mae’n hyrwyddo ac yn hwyluso partneriaethau iechyd rhyngwladol, gan wasanaethu fel canolbwynt ar gyfer rhannu gwybodaeth, cyfnewid gwybodaeth, cydweithredu a rhwydweithio ledled y DU, Ewrop a’r byd.

Nod yr IHCC yw sicrhau’r buddion mwyaf posibl i bobl yng Nghymru a thu hwnt, gan hyrwyddo diwylliant o ddinasyddiaeth fyd-eang a chefnogi system iechyd sy’n gyfrifol yn fyd-eang, yn ogystal â bod yn fwy cyfartal, cydnerth, cynaliadwy a llewyrchus.

Mae’r IHCC yn rhan o Iechyd Cyhoeddus Cymru a’i Ganolfan Gydweithredu ar Fuddsoddi mewn Iechyd a Llesiant WHO, gan rannu a chynyddu ar ddysgu, buddion a chyfleoedd rhyngwladol. Mae wedi sefydlu rhwydwaith cryf o randdeiliaid allweddol yn llwyddiannus o fewn a thu hwnt i ffiniau Cymru, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Cymru dros Affrica, cyrff anllywodraethol, a phartneriaid a rhwydweithiau yn y DU, Ewrop ac yn fyd-eang.

Siarter ar gyfer Partneriaethau Iechyd Rhyngwladol yng Nghymru (y Siarter)

Mae’r IHCC wedi hwyluso datblygiad y Siarter – ymrwymiadau unigryw i’r GIG cyfan, gyda’r nod o sicrhau bod egwyddorion a gwerthoedd y GIG yn cael eu hadlewyrchu ym mhob gweithgaredd iechyd rhyngwladol. Mae’n cryfhau gwaith cilyddol Cymru i adeiladu arfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth, a datblygu partneriaethau cynaliadwy yn seiliedig ar degwch ac wrth geisio buddion diriaethol ar y cyd a bywydau llewyrchus iach i bawb, o fewn a thu hwnt i ffiniau Cymru. Mae’r Siarter yn seiliedig ar hanes cyflawniad a dysgu Cymru yn y maes hwn ac mae’n amlinellu pedair sylfaen partneriaethau iechyd rhyngwladol llwyddiannus: cyfrifoldebau sefydliadol; gweithio mewn partneriaeth ddwyochrog; arferion da; a llywodraethu cadarn.

Mae’r Siarter ar gael yma: Siarter Partneriaethau Iechyd Rhyngwladol yng Nghymru – Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant

Mae’r IHCC wedi sefydlu Grŵp Gweithredu’r Siarter (CIG) a fydd yn darparu platfform ledled GIG Cymru ar gyfer allgymorth a chynnwys sy’n gysylltiedig â gwaith iechyd rhyngwladol a byd-eang; gan hysbysu, rhannu, trafod, cefnogi a datblygu synergeddau a ffrydiau gwaith ar y cyd. Mae’n gweithio i greu rhwydwaith weithredol a llawn cymhelliant o gynrychiolwyr Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau sy’n hyrwyddo ymgysylltiad iechyd rhyngwladol, yn cefnogi sefydliadau cynaliadwy sy’n ‘gyfrifol yn fyd-eang’ ac yn gyrru diwylliant o ‘ddinasyddiaeth fyd-eang’. Nod eithaf y CIG yw helpu i sicrhau gwell iechyd a llesiant a lleihau anghydraddoldebau iechyd o fewn a thu hwnt i ffiniau Cymru.

Siarter ar gyfer Partneriaethau Iechyd Rhyngwladol yng Nghymru: Pecyn Cymorth Gweithredu’r Siarter

Mae Pecyn Cymorth Gweithredu’r Siarter wedi’i ddatblygu o wersi a ddysgwyd ar hyd y ffordd, gan lunio enghreifftiau o arfer gorau a darparu fframwaith llywodraethu i gefnogi gweithgarwch iechyd rhyngwladol. Wedi’i chynllunio fel ‘dogfen fyw’, bydd y Pecyn Cymorth yn cael ei ddiweddaru’n barhaus i gynorthwyo llofnodwyr i weithredu egwyddorion y siarter.

Pecyn Cymorth newydd yn dod yn fuan..

Adroddiadau cynnydd IHCC

Mae’r IHCC wedi cyhoeddi dau adroddiad cynnydd yn tynnu sylw at gyflawniadau GIG Cymru wrth weithio’n rhyngwladol a gweithredu’r Siarter. Maent hefyd yn disgrifio rôl alluogi IHCC a sut mae wedi esblygu dros y blynyddoedd mewn perthynas â datblygiadau byd-eang, yn y DU, yn genedlaethol ac yn lleol.

Gellir gweld adroddiad cynnydd cyntaf yr IHCC yma: Adroddiad Cynydd IHCC 2013-2015 – Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant

Gellir gweld ail adroddiad cynnydd yr IHCC yma: Adroddiad Cynydd IHCC 2015-2017 – Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant

Gellir gweld trydydd adroddiad cynnydd yr IHCC yma: Adroddiad Cynydd IHCC 2018-22 – Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant

Dinasyddiaeth Fyd-eang

Dinasyddiaeth Fyd-eang: lansio modiwl e-ddysgu newydd y GIG

Mae’r Ganolfan Cydlynu Iechyd Rhyngwladol (IHCC), Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar ‘Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant’, Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi lansiad adnodd e-ddysgu Dinasyddiaeth Fyd-eang wedi’i anelu at y GIG yng Nghymru.

Mae’r llwyfan dysgu ar-lein am ddim hwn wedi’i anelu at weithwyr iechyd proffesiynol yng Nghymru ac ar gyfer unrhyw un yn y GIG sydd â diddordeb mewn dysgu am Ddinasyddiaeth Fyd-eang, beth ydyw, deall profiadau a safbwyntiau gweithwyr iechyd proffesiynol eraill a sut y gallant fod yn fwy o ddinesydd byd-eang.

Mae’r adnodd wedi’i greu i annog datblygiad dinasyddiaeth fyd-eang a bydd yn galluogi staff y GIG i wneud y canlynol:

  • Dysgu pam mae anghydraddoldebau yng Nghymru a’r byd a’u heffaith ar iechyd
  • Cymryd rhan mewn trafodaethau ar iechyd a datblygu rhyngwladol a themâu a phynciau eraill
  • Cwestiynu safbwyntiau
  • Herio stereoteipiau
  • Dysgu am effaith gymdeithasol, economaidd, amgylcheddol, diwylliannol a gwleidyddol globaleiddio, yn enwedig ar iechyd a’r GIG
  • Archwilio eu gwerthoedd eu hunain a sut y maent yn effeithio ar eraill
  • Gwrando ar safbwyntiau gwahanol, eu deall a’u parchu
  • Bod yn fyfyriol a datblygu sgiliau meddwl beirniadol
  • Deall y ffyrdd gwahanol o gyflawni lleihau tlodi byd-eang
  • Datblygu a chefnogi eu datblygiad personol a phroffesiynol

Wedi’i rannu yn chwe modiwl, gan ganolbwyntio ar gymorth a datblygu, iechyd seiliedig ar hawliau, globaleiddio, heddwch a gwrthdaro a newid hinsawdd, mae’r adnodd hwn yn hawdd cael mynediad ato, yn hawdd i’w ddefnyddio a bydd yn amhrisiadwy i bob gweithiwr iechyd proffesiynol.

Meddai Liz Green, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus, Polisi ac Iechyd Rhyngwladol, Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Yn 2017 gwnaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru ymrwymiad i ddod yn sefydliad sy’n canolbwyntio’n genedlaethol ac yn gyfrifol yn fyd-eang drwy’r Strategaeth Iechyd Rhyngwladol 10 mlynedd. Mae hwn yn barhad o amgylchedd galluogi cynyddol, gan adeiladu ar Fframwaith Llywodraeth Cymru ‘Iechyd yng Nghymru a thu hwnt i’w ffiniau’ (2012), lle roedd datblygu gweithwyr iechyd proffesiynol GIG Cymru fel dinasyddion byd-eang yn un o’r pedair blaenoriaeth. Mae hyn yn cydnabod bod y byd yn gydgysylltiedig ac yn symudol, lle gall bygythiadau iechyd lleol fynd yn fyd-eang, a gall bygythiadau byd-eang gael effaith leol, fel y brigiad o achosion diweddar o glefyd feirws Ebola, a meysydd eraill fel ansawdd aer, yr economi ac integreiddio i gymdeithasau aml-ddiwylliannol.

 “Bydd adeiladu gweithlu sy’n ymwybodol yn fyd-eang nid yn unig yn dod â manteision i’r rhai sy’n gweithio yn Iechyd Cyhoeddus Cymru a GIG Cymru, bydd ganddo fanteision i’r boblogaeth ehangach.”

Mae’r adnodd wedi’i gomisiynu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, ar y cyd â Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru ac Oxfam Cymru a chafodd ei lansio ar 4 Tachwedd yng Nghynhadledd Iechyd Cymru ac Affrica 2021.

Gellir gweld y modiwlau yma: Learning.wales.nhs.uk

Dinesydd byd-eang (saesneg yn unig)

Cymorth a Datblygiad (saesneg yn unig)

Iechyd sy’n seiliedig ar Hawliau (saesneg yn unig)

Globaleiddio (saesneg yn unig)

Heddwch a Gwrthdaro (saesneg yn unig)

Newid Hinsawdd (saesneg yn unig)

Gallwch wylio ein fideo ar y modiwlau Dinasyddiaeth Fyd-eang yma: https://youtu.be/CU0GX7T24ss (Saesneg yn unig)

Gweiadur - Dinasyddiaeth Fyd-eang Cymru sy'n Gyfrifol ar lefel Fyd-eang