Lansiwyd y Siarter ar gyfer Partneriaethau Iechyd Rhyngwladol (y Siarter) yn 2014, i gydnabod yr angen am agwedd fwy cydlynol a chyson at bartneriaethau rhyngwladol, ac mae’n cydymffurfio â dyheadau, egwyddorion a moeseg Cymru ac yn eu hategu. Gyda’r Siarter, rydym yn gobeithio cryfhau ymrwymiad rhanddeiliaid Cymru i ymarfer yn seiliedig ar dystiolaeth, dysgu ar y cyd a phartneriaethau rhyngwladol yn seiliedig ar gydraddoldeb a mynd ar drywydd buddion diriaethol i bawb.
Mae’r Siarter yn seiliedig ar hanes cyflawniad a dysgu Cymru ym maes iechyd rhyngwladol, gan nodi pedair sylfaen partneriaethau iechyd rhyngwladol llwyddiannus. Mae’r pedair sylfaen wedi’u gosod i sicrhau dull clir a chyson o ymgysylltu rhyngwladol ac maent yr un mor bwysig.
Mae’r Siarter ar gyfer Partneriaethau Rhyngwladol ar gael yma (dolen) ac mae’r Pecyn Cymorth Gweithredu Siarter ar gael yma (dolen i’r adnodd).
Yn 2019, fel rhan o ddathliad 5 mlynedd lwyddiannus gyntaf y Siarter, mae’r IHCC a’u partneriaid ledled Cymru wedi lansio’r Pecyn Cymorth Gweithredu Siarter, casgliad o offer ac adnoddau y cydymffurfiwyd â hwy i ddarparu cefnogaeth i GIG Cymru a rhanddeiliaid i gyflawni eu nodau gofal iechyd rhyngwladol. Mae’r Pecyn Cymorth Siarter ar gael yma (dolen i’r adnodd).