Ein gweledigaeth iechyd ryngwladol yw bod yn sefydliad iechyd y cyhoedd cenedlaethol ysbrydoledig sydd â chysylltiadau byd-eang, sy’n gweithio tuag at Gymru iachach a thecach i fynd i’r afael â heriau a nodau a rennir byd-eang.
Mae’r cyd-destun gwleidyddol, cymdeithasol ac amgylcheddol byd-eang wedi newid yn aruthrol ers y Strategaeth Iechyd Ryngwladol wreiddiol yn 2017 gyda’r DU yn gadael yr UE (‘Brexit’), pandemig COVID-19, yr argyfwng costau byw ac achosion cynyddol o ddigwyddiadau tywydd eithafol oherwydd newid hinsawdd.
Mae llawer o enghreifftiau buddiol o gydweithio rhyngwladol ym maes iechyd wedi digwydd ers 2017 a nod y Strategaeth hon yw adeiladu ar y rhain a galluogi’r Strategaeth Hirdymor i gael ei chyflawni drwy ei gweithredu. Gall gwaith iechyd rhyngwladol amrywio o bartneriaethau ymchwil, rhannu gwybodaeth drwy gyfarfodydd digidol i hyfforddiant ar y cyd a chydweithio ar brosiectau a gweithgareddau eraill.
Yna gellir rhoi’r dysgu hwn ar waith yng Nghymru i wella iechyd a llesiant y boblogaeth a lleihau anghydraddoldebau. Gall ein cefnogi i fod yn asiantaeth iechyd y cyhoedd genedlaethol sydd â chysylltiadau byd-eang, yn defnyddio dulliau arloesol a’n harbenigedd rhyngwladol, gan helpu i atal clefydau, hybu a diogelu iechyd, darparu arweinyddiaeth system, a gwasanaethau arbenigol. Mae’r strategaeth hon yn dangos sut y byddwn yn gweithio gyda phartneriaid fel sefydliadau iechyd y cyhoedd, Llywodraeth Cymru ac eraill i alluogi gweithgarwch iechyd rhyngwladol a gweithio mewn partneriaeth.
Mae Strategaeth Iechyd Rhyngwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gael yma