16 Mai 2024

Asesu goblygiadau cytundebau masnach rydd ar iechyd y cyhoedd: Cytundeb Partneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel

Yn 2016, pleidleisiodd y Deyrnas Unedig i adael yr Undeb Ewropeaidd, a oedd wedi creu ansicrwydd gwleidyddol a chymdeithasol. Mae’r Deyrnas Unedig bellach yn negodi ei chytundebau masnach ei hun, ac ym mis Mawrth 2023, cytunodd i ymuno â Chytundeb Partneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel (CPTPP). Cynhaliwyd Asesiad o’r Effaith ar Iechyd (HIA) […]

19 Medi 2023

Crynhoad o Gyhoeddiadau Cyfnodolion a Llyfrau Diweddar gan Dîm Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU):

Isod mae crynodeb o gyhoeddiadau gan aelodau o dîm WHIASU nad ydym wedi’u cyhoeddi o’r blaen a allai fod o ddiddordeb ichi. Exploring the social value of Public Health Institutes: An international scoping survey and expert interviews (Saesneg yn unig) Mae dadlau dros fuddsoddi mewn iechyd y cyhoedd ataliol trwy ddangos nid yn unig yr […]

11 Gorffennaf 2023

Adroddiad newydd: Effaith Cytundeb Partneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel (CPTPP) ar iechyd, llesiant a thegwch yng Nghymru

Mae’r adroddiad hwn yn rhoi crynodeb byr o ganfyddiadau Asesiad o’r Effaith ar Iechyd (HIA) Cytundeb Partneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel ar Gymru. Mae’r adroddiad hwn yn drosolwg strategol lefel uchel sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Mae’n crynhoi’r prif effeithiau ar iechyd, llesiant a thegwch a allai ddigwydd yn y tymor byr a’r tymor […]

14 Ebrill 2023

Mae cytundeb masnach Partneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel (CPTPP) yn fygythiad mawr i iechyd y cyhoedd ac mae’n gwarantu asesiad o’r effaith ar iechyd (HIA)

Mae papur newyddiadurol newydd yn y BMJ, a gafodd ei gyhoeddi a’i gyd-awduro gan aelodau o dîm Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU), yn ystyried goblygiadau iechyd penderfyniad y DU i ymuno ag un o gytundebau masnach rydd mwyaf y byd, sef Partneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel (CPTPP) Mae’r papur yn […]