« Cyfeiriadur staff

Ymunodd Jen ag Iechyd Cyhoeddus Cymru ym mis Hydref 2024 fel Uwch Arbenigwr Gwyddor Ymddygiad yn yr Uned Gwyddor Ymddygiad. Mae Jen yn Seicolegydd Siartredig gyda Chymdeithas Seicolegol Prydain wedi iddi gwblhau Doethuriaeth ym maes Seicoleg Iechyd. Mae ei hymchwil blaenorol yn cynnwys dylunio a gwerthuso ymyriadau sy’n seiliedig ar weithgaredd corfforol er mwyn hyrwyddo iechyd meddwl a newid ymddygiad pobl ifanc dan anfantais gymdeithasol. Yn ehangach, mae gan Jen ddiddordeb mewn gweithredu a gwerthuso proses ymyriadau cymhleth a defnyddio dulliau cymysg i archwilio ‘yr hyn sy’n gweithio’ (neu nad yw’n gweithio!), i bwy, ym mha gyd-destun. Y tu allan i’r gwaith mae Jen yn mwynhau chwarae rownderi mewn cynghrair lleol, a cherdded ym Mro Gwyr gyda’i chi ‘Swiss Shepherd’ gwyn.