Ar hyn o bryd mae Dr. Muhammad Usman YousafZai yn gweithredu fel Dadansoddwr Data Iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC). Mae ganddo fwy na saith mlynedd o brofiad ymchwil mewn iechyd digidol, Epidemioleg a Ffarmaco-epidemioleg, gan gyfrannu at brif sefydliadau’r byd. Cyn ymuno ag ICC, gweithiodd fel Cymrawd Ymchwil Ôl-raddedig llawn-amser ym Mhrifysgol St. Andrews, lle bu’n ymgymryd ag ymchwil gwyddor data iechyd rhyngddisgyblaethol. Mae ei waith yn cynnwys dadansoddi data iechyd ar raddfa-fawr a chymhwyso AI uwch a thechnegau dysgu peiriant i ragfynegi canlyniadau clinigol a llywio polisi. Y tu all ai i’w fywyd proffesiynol, mae Usman yn mwynhau saethu colomennod clai, sboncen, gweithgareddau antur a cherdded ar hyd mynyddoedd.