« Cyfeiriadur staff

Mae David yn gweithio gyda Thîm Hyb ACE fel Arweinydd Addysg ac Ymgysylltu, gan ddatblygu adnoddau y gall lleoliadau addysg eu defnyddio i roi dull gweithredu trawma a Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod ar waith.

Mae David wedi bod yn athro ysgol gynradd ers 20 mlynedd gan weithio mewn ystod o leoliadau prif ffrwd. Mae bob amser wedi hyrwyddo lles dysgwyr, gan ddarparu ymyriadau therapiwtig i blant agored i niwed. Mae David wedi datblygu ac arwain gwahanol feysydd o’r cwricwlwm gan hyrwyddo dulliau sy’n ystyriol o drawma i gymuned yr ysgol gyfan ar yr un pryd.

Mae gan David radd Meistr mewn Seicotherapi Celf ac mae’n gweithio i’r elusen Mind Cwm Taf Morgannwg, lle mae’n cynnig sesiynau seicotherapi celf ar-lein i bobl ifanc ac oedolion.

Yn ei amser hamdden, mae David yn mwynhau treulio amser gyda’i deulu yn peintio a darlunio, a rhedeg.