Mae’r adroddiad yn nodi sut mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cymryd camau i gynnal a gwella bioamrywiaeth a hybu cadernid ecosystemau. Fel rhan o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, adran 6, mae gennym ddyletswydd i gyhoeddi cynllun ac adrodd ar ein cynnydd. Mae ein gwaith i gefnogi bioamrywiaeth yn cyfrannu at nod llesiant sef ‘Cymru gydnerth’ yn ogystal â’n blaenoriaethau strategol eraill. Er bod y cynllun yn canolbwyntio ar yr hyn y bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ei wneud, mae hefyd yn cydnabod yr angen i weithio mewn partneriaeth ar draws y system iechyd y cyhoedd ehangach yng Nghymru a chyda chydweithwyr mewn sectorau eraill.

Mae’r adroddiad yn cwmpasu:
• Pwysigrwydd bioamrywiaeth i iechyd a llesiant a’r heriau a gyflwynir gan yr argyfwng natur presennol
• Crynodeb o’r hyn sydd wedi’i gyflawni ers cyhoeddi’r Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth diwethaf yn 2019
• Amlinelliad o sut y datblygwyd y cynllun newydd
• Y camau gweithredu arfaethedig ar gyfer y 3 blynedd nesaf a sut y byddwn yn adrodd ar ein cynnydd

Awduron: Helen Bradley, Eurgain Powell
Chwilio'r holl adnoddau