
Mae Rowena yn Brif Swyddog Datblygu Asesiad o’r Effaith ar Iechyd yn Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU) a’i chymhellion proffesiynol yw iechyd, cydraddoldeb a’r amgylchedd. Mae’n eirioli dros feddwl trwy systemau ac mae’n integreiddiwr, gan ddod â syniadau a phrofiad ynghyd sy’n annog canlyniadau datblygu cynaliadwy. Mae Rowena yn Ymarferydd Asesiad o’r Effaith ar Iechyd profiadol ac yn Amgylcheddwr Siartredig sydd â phrofiad o gydlynu, rheoli a chyflawni ystod eang o asesiadau iechyd, cydraddoldeb ac amgylcheddol ar draws gwahanol sectorau. Mae’r rhain yn cynnwys trafnidiaeth, cynllunio’r defnydd o dir, ynni, a seilwaith. Mae ganddi radd Meistr mewn Iechyd y Cyhoedd ac Asesu a Rheolaeth Amgylcheddol.