
Ymunodd Sarah ag Iechyd Cyhoeddus Cymru yn 2024, gan ymgymryd â rôl Swyddog Gweinyddu ac Adnoddau yn Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU). Cyn hyn, bu’n gweithio fel Swyddog Ymchwil mewn sefydliadau sector cyhoeddus amrywiol gan gynnwys awdurdodau lleol, y gwasanaeth sifil, a chyrff cyhoeddus eraill, lle bu’n rhan o ystod eang o brosiectau ymchwil yn ymwneud â chynllunio ac eiriolaeth. Yn ei hamser rhydd, mae Sarah yn mwynhau treulio amser gyda’i theulu a chymryd rhan mewn dosbarthiadau celf.