Mae’r system cynllunio yng Nghymru yn gweithredu ar dair lefel: cenedlaethol, rhanbarthol, a lleol. Mae Cynlluniau Datblygu Lleol (CDLlau) yn llywio’r defnydd o dir a datblygiadau ar lefel yr Awdurdod Lleol. Mae’r adroddiad hwn, a gomisiynwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd Cymru (UGAEIC), yn rhoi adolygiad cryno o’r modd y caiff iechyd ei gynnwys mewn Cynlluniau Datblygu Lleol (CDLlau) ledled Cymru. Prif nod yr adroddiad hwn yw llywio dull UGAEIC o gefnogi llywodraethau lleol i integreiddio ystyriaethau iechyd mewn CDLlau. Bydd y canfyddiadau hefyd yn ychwanegu gwerth ar gyfer rhanddeiliaid eraill sy’n gweithio i wella iechyd a llesiant wrth iddo amlygu cyfleoedd ar gyfer cryfhau’r broses o gynnwys iechyd mewn cynlluniau lleol. Bu i’r broses o adolygu Cynlluniau Datblygu Lleol ledled Cymru ddatgelu nifer o gyfleoedd i atgyfnerthu eu rôl o ran hyrwyddo iechyd y boblogaeth a lleihau anghydraddoldebau iechyd. Ar hyn o bryd, mae’r rhan fwyaf o’r CDLlau yn mynd i’r afael yn anuniongyrchol â f factorau sy’n ymwneud ag iechyd trwy bolisïau cynllunio megis tai, trafnidiaeth a’r ansawdd amgylcheddol. Nifer bach o’r cynlluniau sy’n diffinio iechyd neu anghydraddoldebau iechyd yn benodol, ac nid oes yr un ohonynt yn cynnwys dangosyddion neu fesurau iechyd penodol. Er bod pob CDLl yn ymgorffori elfennau sy’n dylanwadu ar benderfynyddion cymdeithasol iechyd, megis mynediad at wasanaethau ac ansawdd tai, mae’r cysylltiadau hyn â chanlyniadau iechyd ymhlyg yn aml, yn hytrach nag wedi’u nodi’n glir. Canfu ein dadansoddiad fod CDLlau eisoes yn cynnwys nifer o elfennau a all gefnogi iechyd a llesiant y boblogaeth. Trwy sicrhau bod y goblygiadau iechyd hyn yn benodol, diffinio cysyniadau iechyd allweddol yn glir, ac ymgorffori dangosyddion iechyd mesuradwy, gallai CDLlau ddatblygu eu potensial i wella canlyniadau iechyd a lleihau anghydraddoldebau iechyd ledled cymunedau Cymru mewn modd mwy effeithiol.

Awduron: Fiona Haigh, Amber Murphy+ 3 mwy
, Jinhee Kim, Liz Green, Cheryl Williams
Chwilio'r holl adnoddau